Gwirfoddoli ar benwythnosau gyda Cheidwad 14th April, 2024

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Rydym wedi ailgychwyn ein sesiynau gwirfoddoli ar benwythnosau gyda Cheidwad Parc Bute.

Sesiwn nesaf – Dydd Sul 14 Ebrill 2024

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a chânt eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin.

I gadw lle, cysylltwch â ni ar e-bost – ParcBute@caerdydd.gov.uk a byddwn yn cysylltu gyda chadarnhad. Byddwch yn cael eich ychwanegu’n awtomatig at ein rhestr bostio gwirfoddoli a fydd yn anfon nodiadau atgoffa a dyddiadau newydd pan fyddant ar gael. Os hoffech optio allan, rhowch wybod i ni.

Y sesiynau fydd 10.30 – 12.30 gan weithio gyda Cheidwaid newydd Parc Bute.
Byddwn yn cwrdd y tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr am 10:20, ond mae’n rhaid eich bod wedi cadw lle ymlaen llaw i fynychu.

Gwisgwch ar gyfer y tywydd, gwisgwch esgidiau cryf neu esgidiau glaw. 
Dewch â menig garddio gyda chi os oes rhai gennych, er y bydd rhai ar gael gennym ni.
Darperir yr holl offer a rhoddir cyfarwyddyd i chi gan ein tîm ar y tasgau y byddwn yn eu cyflawni. Os byddwch yn colli’r cyfle y tro hwn, peidiwch â phoeni, y sesiwn nesaf fydd dydd Sadwrn 10 Chwefror, a byddwn yn e-bostio eto wythnos cyn yr amser i’ch galluogi i gadw lle.


Manylion

14th April, 2024 - 14th April, 2024 10:30 am - 12:30 am

Lleoliad

Y ganolfan ymwelwyr

what3words: racing.wants.having
Cyfarwyddiadau parc Bute