Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Helpwch ni i gynnal a gwella cynefinoedd Parc Bute. Ymunwch â’r Ceidwaid ac Aelodau eraill o’r Cyfeillion ar raglen waith Hydref/Gaeaf Parc Bute.
Manylion:
– Rhaid i rai dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
– Cwrdd am 10.30 wrth y bwrdd ping pong o flaen Canolfan Ymwelwyr Parc Bute.
– Yn gorffen oddeutu 12:30.
– Bydd Ceidwaid y Parc yn darparu unrhyw offer sydd ei angen.
– Gwisgwch ddillad priodol (cot gwrth-ddŵr, trowsus hir a llewys hir, het haul a sgrin haul) ac esgidiau (bŵts cerdded neu welîs)
Dyddiadau:
- Dydd Gwener 23 Mai – arolwg pryfed ar ddechrau’r haf
- Dydd Sadwrn 14 Mehefin – arolwg blodau gwyllt coetir
- Dydd Gwener 11 Gorffennaf – arolwg pryfed canol yr haf
- Dydd Sadwrn 23 Awst – arolwg blodau gwyllt glaswelltir
Nod yr arolygon yw cadw llygad ar yr effaith y mae gwaith cadwraeth yn ei chael ar flodau a phryfed yn y parc. Gyda’r gobaith y bydd modd eu cynnal bob blwyddyn.
- Dydd Gwener 5 Medi (i’w gadarnhau) – cerdded a chlonc o gwmpas y parc gyda Cheidwaid a Gwirfoddolwyr i drafod syniadau a chynllunio gwaith ar gyfer sesiynau o fis Hydref ymlaen
Cofrestrwch heddiw trwy e-bostio admin@newfriendsofbutepark.co.uk neu trwy Eventbrite
* Rhaid i unrhyw wirfoddolwyr o dan 18 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.*
Prynu tocynnau ar-lein