Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Rydym wedi cyffroi yn fawr i groesawu Gŵyl Uptown i Barc Bute godidog Caerdydd. Yn edrych dros Gastell Caerdydd yn ein gwyrddni Cymreig gwych, bydd Parc Bute yn croesawu bandiau chwedlonol i’r rhifyn Caerdydd cyntaf erioed, gan ddod â chymysgedd hynod arbennig o soul a reggae gyda Sister Sledge yn serennu ar 15 Medi. Bydd Aswad, Maxi Priest, Desmond Dekker’s Aces yn ymuno â nhw, ynghyd â Captain Accident & the Disasters.
Angen mwy o argyhoeddiad? Bydd digon o opsiynau bwyd blasus, gliter, bythau lluniau, a reidiau ffair hefyd fel y gall y teulu cyfan fwynhau! Neu ewch VIP i gael y profiad Uptown gorau posibl. Bydd eich tocyn VIP yn rhoi mynediad i chi i:
– Lôn Mynediad VIP: Curwch y dorf a mynd i mewn yn gyntaf!
– Mynediad Bar VIP: Ymlaciwch mewn steil yn ein bar VIP arbennig; efallai y byddwch yn gweld wyneb enwog neu ddwy hyd yn oed!
– Trîts Unigryw: Dewisiadau ychwanegol o fwyd blasus ar gael i’w prynu.
– Cyfleoedd Lluniau: Cipiwch y foment gyda chyfleoedd lluniau yn arbennig i VIP.
– Tai Bach Posh!
Ymunwch â ni ym mis Medi wrth i ni amsugno pelydrau haul olaf yr haf
Mwy o wybodaeth yn buteparklive.com
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein