Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Cofiwch, nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion… oes e’?
Ymunwch â’r awdur a’r arbenigwr gwiriondeb, Mike Rampton, i ateb y cwestiynau llosg hynny rydych chi wedi bod eisiau eu gofyn erioed, unwaith ac am byth, er enghraifft: BETH yw’r rhif hiraf yn y byd? PAM bod gennym ddwy ffroen ond dim ond un geg? PWY ddylai geisio peidio â syrthio i losgfynyddoedd? SUT ydych chi’n dod yn arbenigwr bywyd go iawn o ran sut mae gofodwyr yn mynd i’r toiled? O BLE mae awduron yn cael eu syniadau? A, PHAN fydd gennych fwced ar eich pen, a yw ateb cwestiynau’n fwy anodd? Yn cynnwys digonedd o ryngweithio cynulleidfaol, cwisiau doniol, a rhagor o gwestiynau, atebion a gwiriondeb nag a welodd Gŵyl Caerdydd erioed, dyma gwestiwn i chi: a yw hwn wir yn ddigwyddiad rydych chi am ei golli?!?!
Mae Mike yn awdur a newyddiadurwr sy’n byw mewn pentref braf ger Caergrawnt gyda’i wraig a’i ferch. Yn aml mae ganddo feiro y tu ôl i’w glust oherwydd ei fod yn meddwl ei fod yn gwneud iddo edrych yn glyfar a phrysur, ac mae’n gwybod cân dda iawn am ddeinosoriaid. There’s No Such Thing as a Silly Question, yw ei lyfr cyntaf i blant.
Awgrymir ar gyfer: 8+
Iaith: Saesneg
Gyda chefnogaeth Nosy Crow
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein