Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Bydd y pwerdy lleisiol Teddy Swims, sydd wedi’i enwebu am Grammy, yn dod â’i sioe fyw ddi-stop i Gaeau’r Gored Ddu, Caerdydd ddydd Gwener 26 Mehefin 2026, fel rhan o’i daith Haf ’26. Gyda chefnogaeth ei fand Freak Freely, bydd Teddy yn cyflwyno’r sain teimladwy sy’n cyfuno genres, sydd wedi ei wneud yn un o’r lleisiau mwyaf grymus mewn cerddoriaeth fodern.
Gyda llwyddiant byd-eang gyda chaneuon fel Lose Control, aeth i #1 ac un o’r senglau hiraf yn y siartiau mewn hanes – ynghyd â thraciau o’i brosiectau clodwiw I’ve Tried Everything But Therapy (Rhannau 1 a 2), gallwch ddisgwyl disgwyl noson yn llawn emosiwn, lleisiau pwerus, ac anthemau sy’n llenwi’r arena.
Yn ymuno â Teddy yng Nghaerdydd mae’r gwesteion arbennig Lauren Spencer Smith a Jordan Rakei, sy’n golygu bod hwn yn ddigwyddiad na ellir ei golli.
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein