TAFWYL 20th Mehefin, 2026

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Mae Tafwyl yn ddathliad blynyddol o’r gorau o gerddoriaeth, diwylliant a chelfyddydau Cymraeg yng nghalon Caerdydd. Mae’n ddathliad o’r iaith, ac yn gyfle i drigolion y ddinas i fwynhau gwledd o adloniant, bwyd stryd a stondinau marchnad o bob math! Gyda pump llwyfan yn gartref i artistiaid a cherddoriaeth o bob math, pabell Llais yn gartref i drafodaethau a sgyrsiau ar amrywiaeth o bynciau, ardal chwaraeon a phentre plant, bydd rhywbeth i’r teulu cyfan. Mae’n ddigwyddiad am ddim, sy’n agored i bawb a hynny heb angen am docyn felly dewch i ymuno yn yr hwyl a mwynhau popeth sydd gan Tafwyl i’w gynnig!

MYNEDIAD AM DDIM

www.tafwyl.cymru


Ewch i wefan y digwyddiad

Manylion

20th Mehefin, 2026 - 21st Mehefin, 2026 11:00 am - 10:00 pm

Lleoliad

Cae Cooper

what3words: small.slang.crass
Cyfarwyddiadau parc Bute