PRIDE CYMRU 13th Mehefin, 2026

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Mae PRIDE CYMRU yn elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr sy’n gweithio i hyrwyddo dileu gwahaniaethu boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hil, crefydd neu allu.

Wedi ymrwymo i ymgyrchu dros gydraddoldeb a derbyn amrywiaeth o fewn cymunedau. Mae Pride Cymru yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniadau a wneir gan bobl LHDT+ mewn cymdeithas ac yn parhau i weithio i greu cyfleoedd i bobl LHDT+ ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd.

Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride ddydd Sadwrn 13 Mehefin

Caiff Gorymdaith Pride Cymruei chynnal ddydd Sadwrn 13 Mehefin, a bydd mesurau cau ffyrdd ar waith yng nghanol y ddinas i hwyluso’r digwyddiad hwn.

Bydd yr Orymdaith Pride yn dechrau am 11am ar 13 Mehefin a disgwylir iddi orffen am 2:30pm, ond bydd Stryd y Castell yn aros ar gau tan hanner nos.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Heol y Porth, ac yna’n symud i:

  • Stryd y Castell,
  • y Stryd Fawr,
  • Heol Eglwys Fair,
  • yna i’r Ais,
  • Stryd John,
  • Plas y Parc,
  • Heol y Brodyr Llwydion,
  • Ffordd y Brenin, ac
  • yn ôl ar Stryd y Castell.

O ystyried hyn, bydd ffyrdd ar gau i sefydlu’r digwyddiad ac ar gyfer y digwyddiad ei hun.

Ar 13 Mehefin o 6am tan hanner nos, bydd y ffyrdd canlynol ar gau i sefydlu ac yna tynnu’r trefniadau ar gyfer yr orymdaith:

  • Stryd y Castell o’r gyffordd â Heol y Porth, Heol y Dug, Ffordd y Brenin i’r gyffordd â Heol y Gogledd
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.

Sylwer: Bydd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan yn hygyrch i breswylwyr, bysus a tacsis o

  • 6am tan 8am ac
  • 2.30pm tan hanner nos.

Rhwng 8am a 2.30pm:

Er mwyn hwyluso’r orymdaith, bydd mesurau cau ffyrdd treigl ar waith. Bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor wrth i’r orymdaith basio pob ardal a byddant yn cael eu hailagor pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny:

  • Heol y Porth,
  • Stryd y Cei,
  • Plas y Neuadd,
  • Y Gwter,
  • Stryd Fawr, a
  • Heol Eglwys Fair.       
        

Rhwng 10am a 2pm:

  • Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott
  • Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Stryd Wood, Lôn y Felin, yr Ais, Stryd John, Heol y Frenhines, Plas y Parc a Heol y Brodyr Llwydion o’r gyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin.

Sylwch: bydd mynediad i’r gyfnewidfa fysus trwy Stryd Tudor a Stryd Wood yn cael ei gynnal.

Oherwydd y mesurau cau ffyrdd a fydd yn cael eu rhoi ar waith, rhwng 11am a 1:15pm, mae Bws Caerdydd yn cynghori eu cwsmeriaid y bydd bysus yn cael eu dargyfeirio i’r mannau lloeren, fel y maent yn ei wneud ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality – naill ai Ffordd Churchill i’r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion i’r gogledd neu Stryd Tudor i’r gorllewin. Bydd y Gyfnewidfa Fysus yn parhau i fod ar agor trwy Stryd Tudor a Stryd Wood.


Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

13th Mehefin, 2026 - 14th Mehefin, 2026 12:00 pm - 10:00 pm

Lleoliad

Cae Cooper

what3words: small.slang.crass
Cyfarwyddiadau parc Bute