Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Dydd Sul 21 Awst, Pentref y Ras yn agor am 09:30, ras gyntaf yn cychwyn am 10:30
Disgrifiad: Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau ynghyd am ddiwrnod allan gwych, gan ddechrau gyda ras hwyl a gorffen gyda pizza ar y llinell derfyn.
Mae’r Ras Pizza yn hygyrch i bawb gyda thri phellter – 5k, 10k a ‘Gwib Teulu’ 2k – i ddewis ohonynt.
Mwynhewch eich rhestr chwarae llawn adrenalin a’n disgo twymo-lan chwedlonol, yn ogystal â medal Ras Pizza 2022 (y gellir ei phersonoli), cyfleoedd i ennill gwobrau a’ch hoff sleisen wrth y llinell derfyn!
P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n rhedwr profiadol, cofrestrwch ar gyfer Ras Pizza a bachwch ddarn o’r hwyl!
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein