Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Y Nadolig ym Mharc Bute: Yn dychwelyd am bumed flwyddyn!
Dyddiadau: 21 Tachwedd – 31 Rhagfyr
Bydd llwybr mwyaf Cymru yn dychwelyd y gaeaf hwn, wedi’i ail-ddychmygu, â goleuadau newydd sbon a gyda hen ffefryn yn dychwelyd. Mae’r llwybr, sydd yng nghanol prifddinas Cymru, yn wrthgyferbyniad perffaith i’r gorlwytho Nadoligaidd traddodiadol. Mae’r ysblennydd golau wedi datblygu’n atyniad mawr y gaeaf, gan ddenu hyd at 100,000 o bobl o bob oed a chefndir i weld goleuadau o’r radd flaenaf a gwaith celf gan dalent sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.
Nawr ar drothwy ei bumed flwyddyn, mae’r adborth wedi bod yn anhygoel, gyda’r Times yn ei ystyried ‘y profiad synhwyraidd eithaf i deuluoedd.”
Yn arwain y golygfeydd newydd sy’n cael eu harddangos eleni mae’r Helygen Ddŵr, a fydd yn syfrdanu ymwelwyr gyda’i harddangosfa hudolus o olau a sain. Dyma goeden fawreddog wedi’i haddurno â miloedd o oleuadau disglair yn curo, gan oleuo ei boncyff mewn esgyniad o oleuni llachar cyn rhaeadru o’i changhennau fel diferion glaw arian.
Hefyd yn newydd eleni yw’r Rhaeadr Iâ, lle mae rhaeadr ddisglair o oleuadau llachar yn disgyn, gan ddisgleirio’n wyn fel iâ a glas fel rhew. Mae pob fflach yn symud mewn harmoni rhythmig gyda seinwedd ar thema’r gaeaf, gan ysgogi hud ffres y tymor.
Gall y rheiny sy’n dwlu ar fwyd archwilio’r amrywiaeth o fwyd stryd sydd ar gael a danteithion blasus gan fasnachwyr lleol, yn ogystal â Thafarn Parc Bute – y caban pren Alpaidd wedi’i gynhesu lle gallwch fwynhau ymlacio gyda diod yn yr amgylchedd disglair.
Tocynnau ar werth – christmasatbutepark.com/signup/cymraeg.php



Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein