Louby Lou 8th Awst , 2023

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Dydd Mawrth 1 Awst: Môr-ladron Herfeiddiol

Cleciwch Glefyddau! Codwch yr angor a hwyliwch ar antur feiddgar gyda’n criw o fôr-ladron drewllyd. Ceisiwch osgoi’r crocodeiliaid, tynnwch lw a chadwch lygad allan am drysor yn y profiad cyffrous hwn o wrando ar stori.

Dydd Mawrth 8 Awst: Y Dyn Bach Sinsir

Iechyd Mawr – mae ‘na Ddyn Bach Sinsir wedi mynd  yn rhydd ac mae’n rhedeg mor gyflym ag y gall! Allwch chi helpu ein hen wraig fach i ddal y dyn bach eofn sydd wedi rhedeg i ffwrdd, cyn i’w phaned o de fynd yn oer, yn y stori antur gyffrous hon.

 1. Bydd angen i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser ar hyd y llwybrau.

2. Ni ellir ad-dalu tocynnau.

3. Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ymhob tywydd, hyd yn oed yn y glaw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n briodol.

4. Cyrhaeddwch 10 munud cyn i’r llwybr ddechrau.

 Bydd y llwybrau’n digwydd ar yr amseroedd canlynol ar y ddau ddyddiad…

 11am – 12pm

1:30pm – 2:30pm

 Oedran a argymhellir: 3-10 oed 


Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

8th Awst , 2023 - 8th Awst , 2023 11:00 am - 2:30 pm

Lleoliad

Cae Cooper

what3words: small.slang.crass

what3words:
Cyfarwyddiadau parc Bute