Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Ymgollwch yn eich dychymyg ac ymuno â thîm Louby Lou wrth iddyn nhw feddiannu tiroedd hardd Parc Bute yr Haf hwn! Mae coeden ffa enfawr wedi egino ar dir Parc Bute a dim ond un peth sydd i’w wneud – cynhesu’r cyhyrau a pharatoi i ddringo! Troediwch eich ffordd o gwmpas byd hudol y cymylau ond cadwch lygad am y cewri yna! Os ydych chi’n lwcus, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn ysbïo rhywun cyfarwydd ar y brig.
Bwriad y digwyddiad hwn yw annog chwarae dychmygol ym myd natur ac mae’n digwydd yn yr awyr agored, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo am y tywydd ar y dydd. Mae ein grwpiau’n mynd allan ym mhob tywydd, hyd yn oed yn y glaw, felly gwnewch yn siŵr bod hyn yn cael ei ystyried cyn archebu.
Wrth gyrraedd, ewch i Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute (sydd wrth ymyl Caffi’r Ardd Gudd), lle bydd un o’n storïwyr wrth law i’ch cofrestru. Rydym yn cynghori cyrraedd deng munud cyn amser dechrau’r daith. Cadwch lygad am ein baneri Louby Lou i’ch pwyntio i’r cyfeiriad cywir.
Bydd angen i blant fod yng nghwmni oedolyn trwy’r amser ar hyd y llwybr. Mae croeso i blant ifanc mewn cadeiriau gwthio neu gludwyr ddod gyda brodyr a chwiorydd hŷn. Sylwer bod hyn yn berthnasol i frodyr a chwiorydd iau yn unig ac nid plant iau o deulu gwahanol.
Sylwer nad oes cyfleusterau parcio uniongyrchol ar gael ar safle Parc Bute. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar ochr draw Heol y Gogledd a’r cyffiniau. Nid oes toiledau i bobl anabl ar gael.
Oedran: 3 – 10 oed
Nodwch, NID OES MODD AD-DALU TOCYNNAU
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein