Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod am ddim ym Mharc Bute   20th Mawrth, 2022

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Byddwn yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mharc Bute ddydd Sul 20 Mawrth (11am i 3pm).

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni.

Mae Tîm Rheoli Parc Bute yn digwydd bod yn fenywod i gyd felly mae hwn yn bwnc sy’n agos at ein calonnau. Mae’r digwyddiad hwn wedi deillio o’n hawydd i wneud rhywbeth cadarnhaol a rhagweithiol yn sgil trais yn erbyn menywod mewn mannau cyhoeddus. Rydym yn ymwybodol o droseddau diweddar a ddigwyddodd yn genedlaethol mewn mannau cyhoeddus, a hefyd y rhai ym Mharc Bute ei hun a allai fod wedi ennyn hyder y cyhoedd wrth ddefnyddio parciau. Mae’r digwyddiad yn gyfle i sefyll gyda’n gilydd a dweud: “Mae Parc Bute yn perthyn i holl bobl Caerdydd, ac mae’n lle y dylai pawb allu mwynhau’n ddiogel.”

Byddwn yn gweithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill yn ogystal â’n siop blanhigion, caffi’r Ardd Gudd, a busnesau ac elusennau lleol a arweinir gan fenywod i wneud hwn yn ddiwrnod pleserus i’r teulu cyfan.

Yn ogystal â dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyffredinol ac yn cynnwys sesiynau sy’n hyrwyddo lles, bydd y digwyddiad yn llwyfan ar gyfer hyrwyddo diogelwch y cyhoedd.

Amseroedd/Disgrifiad o Weithgareddau

Gallwch gofrestru ar y diwrnod i ymuno â’n sesiynau

11:00                    Dechrau’r digwyddiad

11:30 – 11:45     Llun o’r Holl Bartneriaid, Areithiau

11:45 – 12:15     Lles mewn Natur: Ymlacio – Dadflino – Ailgysylltu

Dewch draw i fwynhau cwmni coed a natur ym Mharc Bute, calon werdd y ddinas.  Gwnewch amser i ymlacio, dadflino ac adfywio wrth grwydro drwy fyd natur, gan weld bywyd gwyllt ar hyd y ffordd. 

Meriel Guided Family Walk

Deffrwch eich holl synhwyrau, cyffyrddwch â rhisgl coeden, gwrandewch ar yr adar, syllwch i fyny i’r canopi coed a gwyliwch y cymylau, aroglwch y blodau a gwelwch y gwenyn a’r gloÿnnod byw yn hedfan heibio.  Mae bod yn agosach at fyd natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles.

Byddwn yn dechrau drwy fynd am dro ysgafn, eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio yn y parc, ac yna mwynhau gweithgareddau wrth gwyrdro’r awyr agored o’n cwmpas gan ailgysylltu â byd natur.

Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan Meriel Jones, Swyddog Addysg Parc Bute, sy’n Ymarferydd Lles Mewn Natur. 

12:30 – 13:15     Ioga gyda Physiospace*

Ymunwch ag Osk am sesiwn ioga parc hwyl ac egnïol sy’n addas i bob lefel ac yna myfyrdod ymlaciol a gwaith anadlu.

Byddwn yn symud, yn anadlu ac yn cysylltu â’n gilydd a byd natur yng nghanol harddwch Parc Bute.

Gwisgwch rywbeth cynnes a chyfforddus, a dewch â mat a blanced i ymlacio. Mae croeso i’r teulu cyfan ymuno!

13:30 – 14:00     Lles mewn Natur: Ymlacio – Dadflino – Ailgysylltu

Fel uchod

*Nid yw’r mat ioga’n cael ei ddarparu. Dewch â’ch un eich hun neu flanced bicnic


Manylion

20th Mawrth, 2022 - 20th Mawrth, 2022 11:00 am - 3:00 pm

Lleoliad

Lawnt y Berllan

what3words: inspector.putty.copy

what3words:
Cyfarwyddiadau parc Bute