Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Foodies Festival yw gŵyl bwyd a diod deithiol fwyaf y DU, gyda chogyddion enwog, bwyd stryd lleol anhygoel a pherfformwyr cerddorol enfawr. Mae Foodies Festival wrth ei bodd o ddod i Gymru eto yng Nghaerdydd yr haf nesaf – dathliad o fwyd Cymreig, gyda’r cynhyrchwyr lleol gorau, masnachwyr bwyd stryd a chynhyrchwyr bwyd a diod yn cymryd rhan.
Wrth galon yr ŵyl mae’r theatrau, gan roi’r cyfle i’r cogyddion lleol gorau, Pencampwyr MasterChef a sêr y Bake Off i ddangos eu sgiliau coginio i’w cynulleidfa, a all fynd â’r ryseitiau adref gyda nhw. Yn y Drinks Theatre, mae arbenigwyr gwin, champagne, cwrw, seidr a diodydd eraill yn rhedeg tiwtorialau blasu bob awr. Mae’r theatr Kids Cookery yn rhoi cyfle i blant flasu pethau newydd a dysgu sgiliau coginio sylfaenol.
Ar y llwyfan cerddoriaeth fyw Musicians Against Homelessness (MAH) bydd artistiaid arbennig yn perfformio drwy gydol y digwyddiad, ac mae’r arian sy’n cael ei godi’n mynd i Crisis.



Dyddiad ac amseroedd:
- Mai 9 14.00 – 22.00
- Mai 10 11.00 – 21.00
- Mai 11 11.00 – 20.00
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein