Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Dewch i gwrdd â’r awdures Carys Glyn a Chriw’r Coed – casgliad o arwyr gwych sy’n byw mewn coedwigoedd sy’n cynnwys tylluan sy’n rapio ac eryr sy’n codi pwysau!
Mae’r ‘criw’ yn ôl a’r tro hwn maen nhw’n helpu i achub y draenogod. Mae’r sesiwn hon yn llawn rapio, dawnsio, darlunio a fydd yn sicrhau bod pawb yn deall sut y gallwn helpu draenogod sy’n byw yng Nghymru heddiw.
Mae Carys Glyn yn awdures o’r Fenni, lle mae’n byw wedi’i hamgylchynu gan ei theulu a’r mynyddoedd. Criw’r Coed a’r Draenogod yw ei hail lyfr sy’n dilyn anturiaethau grŵp o anifeiliaid hynafol gydag grymoedd goruwchnaturiol sy’n helpu anifeiliaid heddiw gyda’u problemau. Mae hi’n frwd dros gyffroi plant am lyfrau a byd natur.
Awgrymir ar gyfer: 3+
Iaith: Cymraeg
Gyda chefnogaeth Y Lolfa
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein