Bigmoose Ras Hwyl 13th April, 2025

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

5k,Yn 2023, bu farw 6,069 o bobl yng Nghymru a Lloegr drwy hunanladdiad.

Mae angen i ni gymryd camau i atal y ffigur hwn rhag tyfu.  Mae Bigmoose yn elusen Iechyd Meddwl sy’n cynnig therapi cyflym a hygyrch i bobl sy’n ei chael hi’n anodd. Rydym yn gweithio’n ddiflino i helpu i achub a newid bywydau bob dydd.  Mae ein digwyddiad rhedeg pell hwyliog yn gyfle i chi wneud safiad dros iechyd meddwl. Rydym yn gofyn i 6,069 o bobl ymuno â ni yn y ras hwyl dros amrywiol bellteroedd i gynrychioli pob un o’r bywydau hyn a gollwyd, i godi ymwybyddiaeth a dechrau’r sgwrs am iechyd meddwl.
5k, 10k, hanner marathon, marathon llawn, marathon pellter eithafol… chi sy’n penderfynu. Bydd hon yn ras gylchol hollgynhwysol a fydd yn amrywio o 5k yr holl ffordd i farathon pellter eithafol. Rydym am i bawb gymryd rhan. P’un a ydych yn gwneud her o’r soffa i 5k, yn rhedeg fel tîm, yn rhedeg gyda’ch plant neu â bwriad i redeg y pellteroedd hirach, mae hynny’n wych hefyd. Gellir gwarantu awyrgylch Bigmoose anhygoel a byddin o smotiau oren. Dewch i ymuno â ni am ddiwrnod llawn hwyl ym Mharc Bute ar 13 Ebrill 2025.


Rydym hefyd yn falch o rannu bod y ras hwyl hon wedi’i hachredu gan she races am ymrwymo i gydraddoldeb rhywiol, gan ddilyn eu canllawiau wrth gynllunio ein digwydd. Mae hyn yn cynnwys:
• Cyfleusterau toiled cynhwysol a digonol, pob un wedi’i stocio â chynhyrchion mislif
• Polisi dim goddefgarwch ar gyfer aflonyddu o unrhyw fath
• Ceisio adborth gan gyfranogwyr a gwneud ein gorau glas i wella’r profiad bob blwyddyn
• Caniatáu i fenywod sy’n beichiogi cyn y digwyddiad ohirio eu mynediad i ddigwyddiad yn y dyfodol


Yn y digwyddiad y llynedd, daeth 1,000 o bobl anhygoel i ymuno â ni. Gwnaeth bobl ffrindiau ar y diwrnod a chefnogi ei gilydd o amgylch y cwrs. Gyda’n gilydd, codwyd £50,000 ar gyfer iechyd meddwl, er mwyn darparu ymyrraeth ar unwaith i bobl sy’n ei chael hi’n anodd.
Mae crys T smotiog Bigmoose wedi’i gynnwys yn y pris mynediad. Bydd angen i blant 18 oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn.
Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol i gael tocynnau a rhagor o wybodaeth.


Ewch i wefan y digwyddiad

Manylion

13th April, 2025 - 13th April, 2025 8:00 am

Lleoliad

Cae Cooper

what3words: small.slang.crass
Cyfarwyddiadau parc Bute