Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Ymunwch â Sioned Wyn Roberts am sesiwn amser stori a chrefft gyda’i llyfr newydd sbon, Ni a Nhw.
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ennillodd ei nofel cyntaf i oedolion ifanc, Gwag y Nos, gwobr Tir na n-Og yn 2022, yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Credai Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy’n tanio dychymyg plant ac sy’n helpu caffael iaith yn hanfodol.
Awgrymir ar gyfer: 3+
Iaith: Cymraeg
Gyda chefnogaeth Atebol
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein