Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Ymunwch ag Alison Brown, awdur a darlunydd Amazing Mum a Billie’s Buzz, i ddathlu Sul y Mamau mewn steil!
Dysgwch garu byd natur gyda sesiwn amser stori hyfryd, a dangoswch eich cariad at famau a gofalwyr anhygoel trwy addurno pot blodau prydferth a phlannu hedyn arbennig i ofalu amdano gyda’ch gilydd gartref!
Astudiodd Alison Brown Celf Gain ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl a Choleg Goldsmiths, Llundain, a bu’n gweithio fel dylunydd mewn asiantaeth hysbysebu cyn dod yn awdur a darlunydd amser llawn. Dysgodd sut i ddarlunio drwy gopïo stribedi cartŵn o’i llyfrau comics a phapurau newydd ei thad, yn enwedig cartwnau Peanuts gan Charles M. Schulz. Mae hi’n byw yn Leeds.
Awgrymir ar gyfer: 3+
Iaith: Saesneg
Gyda chefnogaeth Harper Collins
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein