Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Rhowch eich pensiliau a’ch llyfrau braslunio yn barod ar gyfer digwyddiad INCTASTIG!
Mae’r awdur a’r darlunydd, Adeola Sokunbi, yn cyflwyno byd rhyfeddol Destiny Ink, sy’n defnyddio creadigrwydd i oresgyn ei phryderon. Disgwyliwch sesiwn ddwdlo liwgar lle gall plant danio eu dychymyg i ddarlunio eu bwystfilod cyfeillgar (neu frawychus!) eu hunain, wrth ddathlu hud creadigrwydd!
Mae Adeola yn awdur darlunydd o Lundain. Mae hi’n ddwdlwr obsesiynol ac yn hoff iawn o straeon ffantasi. Mae hi hefyd yn ysgrifennu ei nofelau graffig ei hun. Astudiodd Ddelweddu Cyfrifiadurol ac Animeiddio ym Mhrifysgol Bournemouth. Mae Adeola yn gweithio i gwmni animeiddio fel Uwch Artist Goleuo a Chyfansoddi Stiwdio.
Awgrymir ar gyfer: 5+
Iaith: Saesneg
Gyda chefnogaeth Nosy Crow
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein