Llogi Parc Bute ar gyfer digwyddiadau masnachol yn 2023 a thu hwnt

Cyhoeddwyd 22nd Meh, 2022

Ar hyn o bryd mae Parc Bute yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan weithredwyr digwyddiadau masnachol yn y cyfle i logi Parc Bute ar gyfer digwyddiadau mawr dros y tair blynedd nesaf.

Mae gan Gaerdydd enw da am fod yn ddinas o ddigwyddiadau. Gyda Chastell Caerdydd yn gefnlen odidog iddo, wedi’i amgylchynu gan harddwch naturiol, ac yn agos iawn i ganol y ddinas, mae Parc Bute yn lle delfrydol ar gyfer digwyddiadau awyr agored unigryw.

Mae tîm Parc Bute yn awyddus i sicrhau bod y digwyddiadau gorau yn dod i’r parc yn y dyfodol ac yn cynnig cyfle i gytuno ymlaen llaw ar ddyddiadau llogi dros nifer o flynyddoedd, gyda’r nod o gefnogi’r diwydiant digwyddiadau wrth iddo wella o bandemig Covid-19, gan roi mwy o sicrwydd i gwmnïau a denu digwyddiadau o ansawdd uchel gyda’r potensial i ddod yn rhan o galendr digwyddiadau bywiog y ddinas.

Os yw eich cwmni’n dymuno mynegi diddordeb mewn llogi Parc Bute (Cae Cooper) ar gyfer digwyddiad mawr, cysylltwch â jsas@caerdydd.gov.uk Julia Sas, Rheolwr Parc Bute, i ofyn am becyn dogfennau.

Y dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb wedi’u cwblhau yw canol dydd Dydd Mawrth 9 Awst 2022


The deadline for completed Expressions of Interest is noon Tuesday 9th August 2022

Gallwch ddarllen mwy am ofod digwyddiadau Cae Cooper yma: Cae Cooper – Parc Bute (bute-park.com)

Mae Cae Cooper wedi cynnal y mathau canlynol o ddigwyddiadau yn y gorffennol:

  • Digwyddiadau ffordd o fyw a bwyd/diod
  • E.e.  Sioe flodau penwythnos gyda hyd at 26,000 o ymwelwyr dros 3 diwrnod.
  • 100+ o arddangoswyr blodau, yn ogystal â gerddi sioe bach
  • Stondinau masnach garddwriaethol
  • 44 o stondinau marchnad crefft
  • 34 o stondinau marchnad ffermwyr
  • Ardal caffis a bariau
  • Stondin band ac adloniant ar grwydr
  • Olwyn Fawr

  • Cyngherddau cerddoriaeth un llwyfan
  • Lle i hyd at 16,000 ar unrhyw un adeg
  • Bariau
  • Masnachwyr bwyd
  • Pebyll atodol

  • Gwyliau cerddoriaeth aml-ddiwrnod (dim gwersylla ar y safle)
  • 3 llwyfan cerddoriaeth
  • Lle i hyd at 12,000 ar unrhyw un adeg
  • Bariau
  • Masnachwyr bwyd
  • Pebyll atodol e.e. masnachwyr manwerthu a VIP
  • Hyd at 3 reid ffair

  • Digwyddiadau atyniadau aml-ddiwrnod yn seiliedig ar lwybrau
  • Defnyddio llwybrau presennol y tu hwnt i brif safle digwyddiad Cae Cooper ar gyfer digwyddiadau wedi’u seilio ar lwybrau neu deithiau
  • Prif seilwaith digwyddiadau a chynhyrchu cefn llwyfan ar Gae Cooper
  • Masnachwyr bwyd, diod a manwerthu
  • Gweithrediad yn ystod y dydd y tu ôl i linell ffin dalu
  • Gweithrediad gyda’r nos gydag atyniadau wedi’u gadael mewn mannau agored cyhoeddus a’u monitro gan dîm diogelwch dydd.