Llogi canolfan gynadledda

Mae Canolfan Addysg Parc Bute yn cynnig ystafell gynadledda a chyfarfod fach o fewn y parc a’r ardd goed hanesyddol.

Mae’r safle’n hawdd ei gyrraedd o ganol y ddinas, ond mae ganddo holl lonyddwch a harddwch cefn gwlad.

Rydym yn cynnig prif ystafell ddosbarth sy’n addas ar gyfer hyd at 50 o bobl. Mae hyn yn arbennig o addas ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, seminarau a chynadleddau bach.

Hefyd gallwch ddewis llogi ystafell lai ychwanegol gerllaw’r brif ystafell ddosbarth. Gellir defnyddio hon ar gyfer lluniaeth neu le ymneilltuo.

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys:

  • Lleoliad parcdir hardd gyda golygfeydd o’r feithrinfa arddwriaethol sydd ar waith.
  • Lleoliad hawdd ei gyrraedd yng nghanol y ddinas.
  • Gosodiad hyblyg.
  • WiFi am ddim.
  • Cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGA), gan gynnwys dolenni clyw.

Mae ein ffioedd llogi’n cynnwys y canlynol:

  • Gosod yr ystafell yn ôl eich anghenion.
  • Defnydd o’r cyfleusterau cyflwyno – sgrîn, taflunydd wedi’i osod ar y nenfwd a seinyddion.
  • 2 siart droi, padiau a phinnau.

Bydd eich gwesteion yn mwynhau tro dymunol trwy’r parc i gyrraedd y ganolfan.

Mae gan y parc fynediad cyfyngedig i gerbydau ond gallwch drefnu i bobl gael eu gollwng os bydd angen. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Costiau llogi
  Hanner diwrnod
(4 awr)
Diwrnod llawn
Prif ystafell ddosbarth (hyd at 50 o bobl) £120 +vat £240 +vat
Ystafell ddosbarth bach (hyd at 10 o bobl) £60 +vat £120 +vat
Y ddwy ystafell

Os yw eich grŵp yn cynnwys 25 neu fwy o bobl, bydd angen i chi archebu'r ystafell ymneilltuo os ydych yn bwriadu cael lluniaeth.
£180 +vat £300+vat

 

Codir tâl llogi hanner diwrnod o leiaf. Os yw eich grŵp yn cynnwys 25 o bobl neu fwy bydd angen i chi archebu’r ystafell ymneilltuo os ydych yn bwriadu cael lluniaeth am dâl ychwanegol o £60 +TAW

Mae gennym arlwywyr o’r radd flaenaf ar y safle sy’n gallu teilwra bwffes a phecynnau lluniaeth yn ôl eich chwaeth a’ch cyllideb benodol.

 A wyddech chi...?

Mae’r adeilad wedi ennill Lefel 4 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd a ddyfernir i sefydliadau sy’n dangos rheolaeth amgylcheddol effeithiol. Mae lefelau uchel inswleiddio’r adeilad, ynghyd â’i do glaswellt, ei friciau wedi’u hadfer, ei baneli solar a’r cyfleuster trin carthion ar y safle, yn ei wneud yn gynaliadwy.

Lluniaeth

Mae gennym arlwywyr o’r radd flaenaf ar y safle sy’n gallu teilwra bwffes a phecynnau lluniaeth yn ôl eich chwaeth a’ch cyllideb benodol.

Os bydd eich grŵp yn cynnwys 25 neu fwy o bobl, bydd angen i chi archebu’r ystafell ymneilltuo deillio os ydych yn bwriadu cael lluniaeth.

I wirio argaeledd neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am logi Canolfan Addysg Parc Bute e-bostiwch parcbute@caerdydd.gov.uk