Opsiynau Arlwyo

The Secret garden logo

Mae tîm Caffi’r Ardd Gudd yn gyfrifol am arlwyo a darparu lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau yng Nghanolfan Addysg Parc Bute.

I archebu, defnyddiwch y ffurflen isod, a bydd tîm y caffi yn cysylltu â chi i gadarnhau’r archeb.

Os bydd angen unrhyw beth arnoch chi ar y diwrnod, galwch i’w gweld yn y cwrt, a byddan nhw’n hapus i’ch helpu.  Archebu arlwyo

Blychau salad ffres, organig

Caiff ein blychau salad eu paratoi’n ffres gan ddefnyddio cynhwysion y tymor, gan leihau gwastraff bwyd cymaint â phosib.

Rydym yn defnyddio cynnyrch organig a dail sydd wedi’u tyfu ym Mharc Bute.

Bydd ein blychau salad yn amrywio o ddydd i ddydd ond maen nhw bob amser yn llawn blas, yn iach ac wedi’u gwneud yn ffres i chi.

Caiff ein saladau eu gweini mewn blychau y gellir eu compostio, gyda napcynau wedi’u hailgylchu a chytleri y gellir ei gompostio.

Brechdanau ffres

Rydym yn gwneud dewis o frechdanau bach sy’n cael eu paratoi’n ffres ar fore eich cyfarfod.

Mae ein llenwadau’n amrywio ond dyma’r rhai mwyaf poblogaidd:

  • Salad ham Sir Fynwy
  • Wyau buarth a berwr
  • Brie Perl Wen Cymreig a siytni tomatos
  • Cheddar Cymreig Hafod organig a phicalili
  • Hwmws, olifau a salad

Cawliau feganaidd organig

Mae ein cawl bob amser yn feganaidd ac yn ddi-glwten ac rydym bob amser yn defnyddio llysiau organig blasus.

Rydym yn gweini ein cawl gyda bara wedi’i bobi’n ffres a menyn hallt Cymreig (mae taeniadau di-gynnyrch llaeth ar gael).

Mae craceri di-glwten ar gael hefyd.