Cadw’r Ganolfan Gynadledda

Mae Canolfan Addysg Parc Bute yn cynnig lleoliad cyfarfod a chynadledda bach unigryw ym mharc a gardd goed hanesyddol rhestredig 1 y ddinas.

I gael gwybod pryd mae ar gael  cysylltwch â ni  

Cost llogi
Maint y grŵp Hanner Diwrnod FDiwrnod Llawn
Sefydliadau masnachol a llogi digwyddiadau Hyd at 24 £120 +TAW £240 +TAW
25 – 45 £240 +TAW £360 +TAW
Sefydliadau nid-er-elw, elusennau a masnachwyr unigol Hyd at 24 £60 +TAW £120 +TAW
25 – 45 £120 +TAW £180 +TAW

Codir isafswm tâl i logi am hanner diwrnod. Os bydd eich grŵp yn cynnwys 25 neu fwy o bobl, bydd angen i chi archebu’r ystafell ymneilltuo os ydych yn bwriadu cael lluniaeth. Tâl ychwanegol o £55 +TAW

Booking form

 

    Manylion Cyswllt















    Manylion y digwyddiad







    50 o bobl ar y mwyaf.
    10 os yn archebu’r ystafell fach yn unig.

    Ystafell(oedd) sydd eu Hangen

    *Mae’r ystafell fach yn ofod llai ger y brif ystafell ddosbarth, y gellir ei harchebu am £55 ychwanegol y dydd.



    Nodwch mai naill ai 9am-1pm neu 1pm -5pm yw hanner diwrnod.

    Amser

    Gellir cael mynediad i’r adeilad o 08:30 ymlaen i osod pethau, a gellir ei ddefnyddio tan 17:30 os oes angen symud pethau oddi yno. Sylwer bod y Ganolfan Addysg yn cau cyn 5pm yn ystod misoedd y gaeaf (o fis Tachwedd tan fis Chwefror) oherwydd bydd oriau cau’r parc yn gynharach.

    Os bydd rhaid tarfu ar eich trefniadau yn ystod misoedd y gaeaf, gallwn ni gynnig gostyngiad 20% ar archebion diwrnod llawn. Codir ffioedd ychwanegol i dalu am gostau staffio ar gyfer llogi estynedig yn achos archebion llogi ar y penwythnos y tu allan i’n horiau rheolaidd, sef 12.00 tan 15.00. Anfonwch e-bost/ffoniwch os oes angen rhagor o fanylion am hyn arnoch.





    Opsiynau

    Darperir lluniaeth gan gaffi’r Ardd Gudd. Cwblhewch y ffurflen gais am arlwyo ar ôl i’ch archeb ystafell gael ei chadarnhau gennym.

    Gwybodaeth

    Amodau Llogi

    Rhaid i chi ddarllen a derbyn ein ein hamodau llogi cyn archebu ystafell.

    Sylwer

    Anfonebu: Byddwch yn cael anfoneb ar gyfer llogi’r ganolfan ar ôl eich digwyddiad. Bydd anfonebau arlwyo’n cael eu hanfon gan Gaffi’r Ardd Gudd.

    Polisi Canslo: Rhowch o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd neu bydd swm llogi ystafell llawn yn cael ei godi arnoch.

    Cost llogi

    Pris: £0

    TAW: £0

    Cyfanswm: £0