Parcio

Cyhoeddwyd 22nd Ebr, 2020

Dim ond cerbydau gweithredol sy’n cael mynd i mewn i’r parc. Dylid parcio pob cerbyd personol y tu allan.  

Mae’n bosibl trefnu llogi meysydd parcio cyhoeddus a thalu ac arddangos y Cyngor, yn gyfan neu’n rhannol.

Ar gyfer 20 cerbyd neu lai:

  • Defnyddiwch y meysydd parcio talu ac arddangos ar Heol y Gogledd/Gerddi Sophia
  • Talwch wrth y peiriant neu crëwch gyfrif a thalu drwy MiPermit
  •  Bydd angen rhoi rhif cofrestru pob cerbyd yn MiPermit ond gellir ychwanegu sawl cerbyd o dan un cyfrif a darperir derbynneb.
  • Caiff y gost ddyddiol ei chodi ac ni chaiff lleoedd eu cadw.

Ar gyfer 21 cerbyd a rhagor:

  • Mae ardal (tua’r gogledd o’r bont fynediad i gerbydau) y gellir ei rhannu ac lle mae bolardiau y gellir eu cloi y bydd modd eu rhoi ar waith y byddai’n rhaid i’r llogwr eu rheoli
  • Codir Taliadau Digwyddiad ar gyfer yr ardal hon. Cysylltwch â’r Tîm Parcio am fwy o wybodaeth.

Angen isafswm o 5 diwrnod gwaith o rybudd – cysylltwch â’r Tîm Parcio i drefnu anfonebu am yr ardal hon ac i roi gwybod i’r cynorthwywyr parcio am y cais am barcio awdurdodedig.

Cysylltwch â’r Tîm Parcio i drafod defnyddio ardaloedd parcio mwy neu ddefnyddio Prif Ffordd Gerddi Sophia ar gyfer mynediad.

Gweler Rheoli Traffic

Canllawiau ar bob digwyddiad