Cynllunio at Argyfwng
Cyhoeddwyd 3rd Apr, 2020Mae’n rhaid bod gennych gynlluniau ar waith i ymateb yn effeithiol i faterion iechyd a diogelwch sy’n codi ac argyfyngau eraill a allai ddigwydd mewn digwyddiad. Dylai digwyddiadau ddarparu Cynllun Argyfwng gyda lefel briodol o fanylder ar gyfer maint y digwyddiad a’r risg y mae gweithgareddau’r digwyddiad yn ei beri a graddau a difrifoldeb posibl y mater.
Rhaid i chi ystyried y prif risgiau i’r digwyddiad a’r bobl sy’n bresennol.
Datblygwch weithdrefnau argyfwng i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn mewn argyfwng, e.e. tân neu fethiant strwythurol. Crëwch gynlluniau wrth gefn i fod ar gael i ddelio â materion a sefyllfaoedd mor amrywiol â gorlenwi rhan neu’r cyfan o’r safle, tywydd garw neu fethiant pŵer.
Bydd angen i chi hefyd ystyried eich ymateb i argyfyngau mwy difrifol, gan gynnwys materion mawr a fydd yn gofyn am gymorth y gwasanaethau brys ac mewn sefyllfa ddifrifol, trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y mater / argyfwng ynghyd â rheoli stiwardiaid y digwyddiad.
Bydd angen Cynllun Argyfwng fel rhan o’ch cais digwyddiad, dylai hwn gynnwys manylion y ddarpariaeth yn ystod eich digwyddiad yn ogystal â’ch cyfnod adeiladu a thynnu.
Efallai y byddai’n briodol, os yw eich digwyddiad yn parhau i’r nos, darparu goleuadau argyfwng mewn ardaloedd cadw wedi eu goleuo a llwybrau gadael mewn argyfwng. Dylid dangos hyn ar gynllun safle eich digwyddiad.
Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Annerch y Cyhoedd
Petai argyfwng, dylai fod dulliau priodol o rybuddio a rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd sy’n mynychu’r digwyddiad. Mae angen bod gan System Annerch y Cyhoedd frys system ategol sy’n cael ei phweru gan fatris rhag ofn y bydd pŵer yn methu.
Gweler Rheoli’r Dorf
Gweler Adrodd am Faterion
Gweler Rheoli Traffig