Cloi’r Parc
Cyhoeddwyd 29th Nov, 2022Gall digwyddiadau hwyr yn y nos amharu ar amseroedd cloi’r parc – trafodwch gyda Swyddog Digwyddiadau Parc Bute.
Dylech ddarparu amserlen fesul gât yn nodi pa gatiau sy’n cael eu defnyddio ar ba ddyddiadau.
Dylech roi manylion unrhyw gymorth y byddwch yn ei gynnig i Geidwaid y Parc o ran cloi’n hwyrach nag amseroedd cloi arferol y parc. Gall hyn gynnwys stiwardio wrth gatiau’r brif fynedfa i ddarbwyllo’r cyhoedd rhag mynd i mewn i’r parc pe bai fel arfer wedi ei gloi bryd hynny.
Mewn rhai achosion efallai y bydd angen cloi’r parc yn gynt nag arfer – unwaith eto, rhowch amserlen fesul gât a nodwch sut y byddwch yn rheoli’r broses hon.
Bydd y manylion hyn yn cael eu rhannu gyda staff y parc a Cheidwaid y Parc.
Canllawiau ar bob digwyddiad