Canslo
Cyhoeddwyd 7th Feb, 2020Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ganslo digwyddiad oherwydd tywydd eithafol nac unrhyw Force Majeure.
Felly, mae’r Cyngor yn annog trefnwyr digwyddiadau i lunio telerau ac amodau priodol ar gyfer gwerthu tocynnau a/neu i gymryd yswiriant er mwyn diogelu eu hunain rhag colledion ariannol mewn sefyllfa o’r fath.
Bydd y Cyngor bob amser yn gwneud ymdrechion rhesymol i gynnal digwyddiad y mae force majeure yn amharu arno, ar ddyddiad neu mewn lleoliad arall drwy drafodaethau gyda threfnydd y digwyddiad.
Os yw trefnydd digwyddiad yn tynnu’n ôl o’r archeb cyn y cyfnod llogi ni fydd unrhyw ffioedd blaendal/llogi a dalwyd hyd hynny yn cael eu had-dalu.
Os caiff digwyddiad ei atal rhag mynd rhagddo ar y dyddiad / lleoliad arfaethedig am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth trefnydd y digwyddiad neu’r Cyngor (force majeure) e.e. y tywydd, ni fydd y Cyngor yn ad-dalu unrhyw ffioedd llogi a dalwyd hyd hynny.
Canllawiau ar bob digwyddiad