Baneri

Cyhoeddwyd 14th Apr, 2020

Gallwn roi caniatâd i godi baneri (neu arwyddion hysbysebu) dros dro ar gyfer digwyddiadau penodol.

Gellir arddangos baneri dros dro yn cyhoeddi digwyddiadau lleol o natur elusennol, diwylliannol, addysgol, gwleidyddol, cymdeithasol, hamdden neu grefyddol.

Mae angen caniatâd hysbysebu ar gyfer baneri dros dro i hysbysebu digwyddiadau masnachol  a gellir cael y caniatâd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, drwy eu proses ymgeisio safonol.

Dim ond digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Mharc Bute neu yng Ngerddi Sophia y gellir eu derbyn.

Rhaid i Drefnydd y Digwyddiad sicrhau bod yr holl ddeunydd hysbysebu yn cydymffurfio â’r canllawiau cynllunio ar hysbysebion dros dro:

  • Rhaid i bob baner fod yn ddwyieithog yn unol â Pholisi’r Gymraeg.
  • Ni ddylid codi baneri yn gynharach na 28 diwrnod cyn y digwyddiad
  • Caniateir baneri am uchafswm o 4 wythnos. 
  • Rhaid tynnu baneri o fewn 24 awr wedi diwedd y digwyddiad
  • Ni ddylid goleuo baneri
  • Rhaid i faneri gynnwys eich hunaniaeth brand a’ch manylion cyswllt
  • Mae’r lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ac ni ellir darparu ar gyfer pob cais.

Maint Baneri

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol bod pob baner yn ddwyieithog o dan Safonau’r Gymraeg felly rydym yn caniatáu naill ai:

  • Dwy faner o hyd at 0.6m2 ochr yn ochr (un Gymraeg ac un Saesneg)

NEU

  • Un faner ddwyieithog hyd at 1.2m2.

Lleoliadau Baneri:

A allaf godi baneri mewn parciau eraill?

Gofynnwch am ganiatâd i godi baneri ym Mharciau eraill Caerdydd drwy Swyddog Digwyddiadau Parc Bute. Ni ellir caniatau pob cais. Gall peidio â gofyn am ganiatâd o flaen llaw arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu.

A allaf godi baneri o amgylch y ddinas?

Gofynnwch am ganiatâd i godi baneri ar briffyrdd gan y Tîm Priffyrdd. Gall peidio â gofyn am ganiatâd o flaen llaw arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu.

Peidio â chydymffurfio

Gall peidio â gofyn am ganiatâd o flaen llaw arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu.

Ni chodir unrhyw arwyddion na baneri ar gyfer hysbysebu unrhyw ddigwyddiad neu fater neu weithgaredd masnachol sy’n digwydd y tu allan i’r parc.

Bydd peidio â chydymffurfio â thynnu baneri a deunydd hysbysebu yn y cyfnod penodedig yn arwain at Gyngor Caerdydd yn tynnu’r baneri a’r deunydd hysbysebu ar unwaith. Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i godi isafswm tâl o £100 + TAW ar Drefnydd y Digwyddiad.

Ni chaniateir glynu posteri na sticeri anghyfreithlon wrth unrhyw ran o adeiladwaith y Parc.  Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn gyfrifol am yr holl gostau yr eir iddynt ar gyfer cael gwared ar unrhyw bosteri neu sticeri anghyfreithlon, y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i’w ddigwyddiad.

Gweler Caerdydd Ddwyieithog
Gweler Marchnata
Gweler Safonau Iaith Gymraeg Cyngor Dinas Caerdydd: Canllaw i Drydydd Partïon
Gweler Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992: 3D – Hysbysebion dros dro amrywiol
Gweler Rhestr Wefannau
Gweler Cymraeg

Canllawiau ar bob digwyddiad