Anifeiliaid
Cyhoeddwyd 7th Jul, 2021Os cynigir bod eich digwyddiad yn cynnwys anifeiliaid, bydd angen i chi ystyried materion penodol sy’n ymwneud â lles anifeiliaid a diogelu iechyd y cyhoedd.
Dylid cynnwys manylion unrhyw atyniadau anifeiliaid anwes/trin anifeiliaid yn eich asesiad risg digwyddiad. Rhaid darparu cyfleusterau golchi dwylo addas.
Sicrhewch fod unrhyw berchnogion/pobl trin anifeiliaid yn cydymffurfio â gofynion Deddf Lles Anifeiliaid 2006. Yr e-bost cyffredinol ar gyfer ymholiadau clefydau trosglwyddadwy yw surveillance.requests@wales.nhs.uk
Ni chaniateir i stondinau roi anifeiliaid anwes (pysgod aur ac ati) i’w gwerthu na’u rhoi’n wobr.
Cyswllt Panel Cyswllt Digwyddiadau
Gweler Safonau Masnach