Cwestiynau ac Atebion Blackweir Live

Cyhoeddwyd 14th Nov, 2024
Rydw i wedi clywed bod cynlluniau i gynnal cyngherddau ar Gaeau’r Gored Ddu. Allwch chi ddweud mwy wrtha’ i?

Mae cerddoriaeth fyw yn ganolog i’n gweledigaeth i Gaerdydd.

Mae’r hyrwyddwyr lleol Depot Live, gan weithio mewn partneriaeth â Cuffe & Taylor, wedi cysylltu â’r Cyngor ynghylch defnyddio Caeau’r Gored Ddu i gynnal cyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw awyr agored gydag artistiaid byd-eang yr haf nesaf.

Bydd y cynlluniau, sy’n amodol ar drwydded, yn helpu i gadarnhau statws Caerdydd fel lleoliad gigio hanfodol i artistiaid mawr, gan ddod â manteision economaidd sylweddol i’r ddinas, a darparu incwm hanfodol i’r Cyngor fuddsoddi yn ein parciau a’n helpu i barhau i hyrwyddo’r ddinas fel lleoliad cerdd.

Felly, dydych chi ddim yn adeiladu lleoliad cyngerdd parhaol ar Gaeau’r Gored Ddu?

Nac ydym. Mae’r cynllun ar gyfer cyfres fer o ddigwyddiadau awyr agored dros dro gydag artistiaid o’r radd flaenaf, i’w chynnal yng Nghaeau’r Gored Ddu. Ar hyn o bryd cynigir y digwyddiadau hyn am hyd at bedwar dyddiad yr haf nesaf.

Pa mor fawr fydd y cyngherddau hyn?

Gallai’r capasiti fod hyd at 35,000 o bobl, yn amodol ar drwydded

Pa artistiaid fydd yn chwarae? Sut galla i gael tocynnau?

Bydd gwybodaeth am artistiaid a thocynnau yn cael ei chadarnhau gan Depo Live dros 
y misoedd nesaf.

A fydd y cyhoedd yn dal i allu cael mynediad i Barc Bute yn ystod y cyngherddau?

Byddan. Bydd y rhan fwyaf o 130 erw Parc Bute yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd drwy gydol y cyfnod hwn.

Fodd bynnag, bydd mynediad cyhoeddus i Gaeau’r Gored Ddu yn cael ei gyfyngu yn ystod y cyngherddau ac am gyfnod cyfyngedig y naill ochr i ganiatáu gwaith gosod a datgymalu.

Bydd manylion llawn unrhyw newidiadau mynediad yn cael eu hysbysebu ymlaen llaw.

Beth fydd yn digwydd i’r gemau criced sydd fel arfer yn cael eu chwarae ar Gaeau’r Gored Ddu?

Rydym wrthi’n trafod gyda chynghreiriau criced lleol i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar gemau.

Beth am y caeau criced? Sut maen nhw’n cael eu hamddiffyn rhag difrod?

Nid yw cynnal cyngherddau ar gaeau chwaraeon yn anarferol ac mae gofal arbennig yn cael ei gymryd i amddiffyn y sgwariau criced rhag difrod.  Bydd y dechnoleg a ddefnyddir yn y Gored Ddu yr un peth ag a ddefnyddir pan mae meysydd criced proffil uchel, fel Old Trafford, yn cynnal digwyddiadau.

Beth am yr effaith bosibl ar fywyd gwyllt ac amgylchedd ehangach y parc?

Mae’r hyrwyddwyr digwyddiadau’n cymryd eu cyfrifoldeb am weithio yn lleoliad unigryw a gwerthfawr y parc o ddifrif.

Rhoddir ystyriaeth ofalus i unrhyw effaith amgylcheddol bosibl y gallai’r cyngherddau hyn ei gael a bydd mesurau’n cael eu rhoi ar waith, lle bo angen, i sicrhau bod unrhyw effaith ar fflora a ffawna yn cael ei leihau hyd yr eithaf.  

Bydd cyngor annibynnol hefyd yn cael ei geisio i sicrhau bod coed y parc yn cael eu gwarchod. 

Beth am y sŵn?

Mae Parc Bute yn barc canol dinas sy’n cynnal digwyddiadau rheolaidd, gyda llawer ohonynt yn cynnwys cerddoriaeth fyw. Bydd trigolion a busnesau cyfagos yn cael eu hystyried, a bydd lefelau sŵn yn cael eu monitro bob amser.  Bydd unrhyw amodau trwyddedu penodol gofynnol yn cael eu bodloni.

Sut bydd traffig y digwyddiadau’n cael ei reoli?

Mae Caeau’r Gored Ddu yng nghanol y ddinas – maen nhw’n hawdd eu cyrraedd ar droed ac mae ‘na gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, a bydd cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r rhain.

O ran traffig cerbydau, bydd trefniadau rheoli digwyddiadau a pharcio canol y ddinas yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y cyngherddau hyn.

Beth fydd y cyngherddau yn ei wneud i gefnogi cynaliadwyedd?

Bydd yr hyrwyddwyr yn sicrhau bod polisi cynaliadwyedd cynhwysfawr ar gael ar wefan Depot Live m
aes o law.

A fydd y Cyngor yn gwneud arian o’r cyngherddau hyn?

Mae Parc Bute yn un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd ac yn meddu ar Wobr fawreddog y Faner Werdd – yr anrhydedd fwyaf i barciau yn y DU – ar sail ei ansawdd. Mae cynnal y safonau uchel hynny yn wyneb pwysau parhaus ar gyllidebau’r cyngor yn heriol.

Ochr yn ochr â digwyddiadau poblogaidd a sefydledig eraill sydd eisoes yn cael eu cynnal ym Mharc Bute, bydd y cyngherddau hyn yng Nghaeau’r Gored Ddu yr haf nesaf yn cynhyrchu incwm hanfodol i’w fuddsoddi yn ein parciau ac yn ein helpu i barhau i hyrwyddo’r ddinas fel lleoliad cerdd.

Beth fydd manteision y cyngherddau hyn i economi Caerdydd?

Yn ogystal â helpu i wneud y ddinas yn lle bywiog a chyffrous i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr, dangosodd ffigurau cyn y gyfres gyntaf o gyngherddau’r Castell fod cerddoriaeth fyw yn cyfrannu tua £100 miliwn at economi Caerdydd bob blwyddyn.

Bydd y cyngherddau newydd hyn yn denu artistiaid byd-eang i chwarae yng Nghaerdydd ac yn sicrhau manteision economaidd sylweddol pellach i’r ddinas.

Mae cyngherddau maes glas, awyr agored yn boblogaidd gyda’r cyhoedd ac, y llynedd, daeth cyngherddau’r Castell â dros 80,000 o ymwelwyr i Gaerdydd o’r tu allan i Gymru. Ynghyd â chadwyn gyflenwi leol helaeth a 300 o swyddi rhan-amser ychwanegol yn ystod y cyfnod, cyfrannwyd £26.3 miliwn at economi’r ddinas.

Mae disgwyl i gyngherddau Blackweir Live greu 300 o swyddi lleol eraill yn ystod cyfnod y cyngherddau.

Sut bydd y cyngherddau hyn yn helpu i gefnogi sîn gerddoriaeth Caerdydd?

Mae’r cyngherddau’n rhan o’n gwaith parhaus, ochr yn ochr â Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, i helpu i greu dinas gerdd fywiog gydol y flwyddyn lle mae pob lefel o’r sector cerddoriaeth – o artistiaid addawol a lleoliadau llawr gwlad i fyny – yn ffynnu.

Mae enghreifftiau o’r gwaith ehangach hwn yn cynnwys:

  • Cyflawni ŵyl aml-leoliad ddiweddar Dinas Gerdd Caerdydd – gŵyl gerddoriaeth fwyaf erioed Caerdydd.
  • Helpu i sicrhau dyfodol Clwb Ifor Bach.
  • Helpu i ddod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer lleoliadau fel Porters a Sustainable Studios.
  • Cyflwyno grantiau cyllid cyfalaf newydd – sydd ar gael i bob lleoliad llawr gwlad yng Nghaerdydd.
  • Cyflwyno ‘parth llwytho’ cerddorion yn Stryd Womanby.
  • Penodi Swyddog Cerdd cyntaf erioed Caerdydd – sy’n ymroddedig i weithio gyda’r diwydiant cerddoriaeth.
  • Cyflwyno cynllun datblygu talent ysgol ‘Gigs Bach’ newydd.

Mae’r hyrwyddwyr o Gaerdydd, Depot Live, yn gweithio ochr yn ochr â’r hyrwyddwyr rhyngwladol Cuffe & Taylor, sy’n gweithio gyda rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant cerddoriaeth byd-eang – bydd y bartneriaeth hon yn adeiladu ar lwyddiant cyfres Cyngherddau’r Castell yr haf wrth i ni geisio cadarnhau statws Caerdydd fel lleoliad gigio hanfodol i artistiaid mawr cyn adeiladu’r arena newydd ym Mae Caerdydd.

Bydd cyngherddau Blackweir Live hefyd yn arddangos y dalent leol orau mewn slotiau cefnogi, gan roi sylw gwerthfawr iddynt gan gynulleidfaoedd newydd.