Cefnogi Parc Bute

Mae gofalu am gasgliadau o goed a phlanhigion arbennig mewn gardd hanesyddol yn gyfrifoldeb mawr.

Mae’r arian a godwn yn hanfodol i gynnal Parc Bute ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Os hoffech chi ein helpu i ofalu am Barc Bute trwy roi rhodd, bydd eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr a’i ddefnyddio mewn modd call.

I gael gwybodaeth am roi mainc neu goeden yn rhodd mewn parciau eraill yng Nghaerdydd ewch i Awyr Agored Caerdydd.

A ydych yn frwdfrydig am Barc Bute?

Ymunwch a Gyfeillion Parc Bute

Mainc Goffa

Mae seddi rhodd yn ffordd berffaith o ddathlu anwylyd neu goffáu carreg filltir a byddai hyd yn oed yn anrheg briodas wych. Gallai hyn gynnwys plac i gofnodi eich hoff amserau. 

Mae'r Cynllun Seddi Rhodd ar gau ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio cynnig rhestr newydd o feinciau ym mis Awst 2024.

Arddull: Mainc Fictoraidd ei dyluniad [llun]

Caiff pob mainc ei chynnig ar sail y cyntaf i'r felin ar ôl derbyn ffurflen a thaliad.

Mae'r costau'n amrywio yn dibynnu ar y gwaith paratoi sydd ei angen ym mhob lleoliad.  

Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys yr holl wybodaeth a ffurflen gais:

Neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Coed

Mae rhoi coeden yn ffordd hyfryd o gadw'ch atgofion yn fyw neu i gofio digwyddiad mewn lleoliad naturiol syfrdanol. Gall teulu a ffrindiau fwynhau'r goeden yn rheolaidd a'i gwerthfawrogi gan y miloedd o ymwelwyr parc bob blwyddyn.

Coffáu rhywun annwyl neu ddigwyddiad arbennig trwy gysegru coeden yn yr arboretwm.


Nid yw cynllun 2024 wedi agor eto, am ffurflen archebu a phrisiau, cysylltwch â ni.

Mrs Morfudd Meredith -Lord Leiutenant of South Glamorgan

Treftadaeth fyw

Bu cyfraniadau gan ddau unigolyn a oedd yn dwlu ar Barc Bute yn helpu i sefydlu cychod gwenyn a chynorthwyo gwenwynwyr lleol, Nature’s Little Helpers, i fentora cyflogeion brwd y parc.

Gellir prynu mêl Parc Bute yn uniongyrchol o Ganolfan Addysg Parc Bute

Rhagor am wenyn Parc Bute.

Some of Bute Parks Honey on Sale