Opsiynau Arlwyo
Mae tîm Caffi’r Ardd Gudd yn gyfrifol am arlwyo a darparu lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau yng Nghanolfan Addysg Parc Bute.
I archebu, defnyddiwch y ffurflen isod, a bydd tîm y caffi yn cysylltu â chi i gadarnhau’r archeb.
Os bydd angen unrhyw beth arnoch chi ar y diwrnod, galwch i’w gweld yn y cwrt, a byddan nhw’n hapus i’ch helpu. Archebu arlwyo
Blychau salad ffres, organig
Caiff ein blychau salad eu paratoi’n ffres gan ddefnyddio cynhwysion y tymor, gan leihau gwastraff bwyd cymaint â phosib.
Rydym yn defnyddio cynnyrch organig a dail sydd wedi’u tyfu ym Mharc Bute.
Bydd ein blychau salad yn amrywio o ddydd i ddydd ond maen nhw bob amser yn llawn blas, yn iach ac wedi’u gwneud yn ffres i chi.
Caiff ein saladau eu gweini mewn blychau y gellir eu compostio, gyda napcynau wedi’u hailgylchu a chytleri y gellir ei gompostio.
Brechdanau ffres
Rydym yn gwneud dewis o frechdanau bach sy’n cael eu paratoi’n ffres ar fore eich cyfarfod.
Mae ein llenwadau’n amrywio ond dyma’r rhai mwyaf poblogaidd:
- Salad ham Sir Fynwy
- Wyau buarth a berwr
- Brie Perl Wen Cymreig a siytni tomatos
- Cheddar Cymreig Hafod organig a phicalili
- Hwmws, olifau a salad
Cawliau feganaidd organig
Mae ein cawl bob amser yn feganaidd ac yn ddi-glwten ac rydym bob amser yn defnyddio llysiau organig blasus.
Rydym yn gweini ein cawl gyda bara wedi’i bobi’n ffres a menyn hallt Cymreig (mae taeniadau di-gynnyrch llaeth ar gael).
Mae craceri di-glwten ar gael hefyd.