Diweddariad Holi ac Ateb Byw Blackweir Live (4.6.26)
Cyhoeddwyd 8th Meh, 2026Nod yr Holi ac Ateb hwn yw ateb cwestiynau cyffredin am y cyngherddau Blackweir Live sydd ar ddod.
Gall preswylwyr sydd ag unrhyw gwestiynau neu bryderon ychwanegol gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.
Am fanylion cysylltu â ni, ewch i: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Cysylltu-ar-Cyngor/Ymholiadau-cyffredinol/Pages/default.aspx
A fydd cyngherddau yng Nghaeau’r Gored Ddu yr haf hwn?
Bydd. Bydd pum cyngerdd yn cael eu cynnal yng Nghaeau’r Gored Ddu yr haf hwn.
Mae sioeau ‘Blackweir Live’ yn cynnwys: The Cure (24 Mehefin), Teddy Swims (26 Mehefin), Lewis Capaldi (30 Mehefin ac 1 Gorffennaf) a Pitbull (4 Gorffennaf).
Mae cerddoriaeth fyw yn ganolog i’n gweledigaeth i Gaerdydd a bydd y digwyddiadau yn helpu i gadarnhau statws Caerdydd ymhlith artistiaid mawr fel cyrchfan sy’n rhaid chwarae ynddi, gan ddod â manteision economaidd sylweddol i’r ddinas ac incwm hanfodol i’r Cyngor i’n galluogi i barhau i fuddsoddi ym mharciau’r ddinas a chyflwyno ein gwaith fel Caerdydd Dinas Gerdd i gefnogi a datblygu ecosystem gerddoriaeth y ddinas.
A yw’r digwyddiadau hyn wedi cael caniatâd cynllunio i fynd ymlaen?
Ydyn. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i ddigwyddiadau gael eu cynnal yng Nghaeau’r Gored Ddu mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ddydd Iau 4 Mehefin, 2026.
Sut oedd Cyngor Caerdydd yn gallu gwneud cais am ganiatâd cynllunio a gwneud y penderfyniad ynghylch rhoi’r caniatâd cynllunio. Onid yw hynny’n wrthdaro buddiannau?
Mae’n rhaid i Gyngor Caerdydd weithio o fewn cyfreithiau, polisïau a fframweithiau cynllunio. Lle mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio tir, neu ymgymryd â gwaith datblygu, sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio ffurfiol, rhaid iddo wneud cais ffurfiol i’r ‘Awdurdod Cynllunio Lleol’ am ganiatâd o dan Reoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992.
Er mai Cyngor Caerdydd yw’r ‘Awdurdod Cynllunio Lleol’ hefyd, mae’r Gyfraith yn caniatáu iddo fod yn ymgeisydd a phenderfynwr. Mae prosesau priodol ar waith i sicrhau priodoldeb.
Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y cais – fel y byddai ar gyfer unrhyw ddatblygiad arall – yn ei rôl reoleiddiol fel yr ‘Awdurdod Cynllunio Lleol’. Mae hyn yn golygu dilyn yr holl brosesau priodol, gan gynnwys cyhoeddi’r cais, a dod i gasgliad ar rinweddau’r datblygiad arfaethedig mewn adroddiad Swyddog, yn union fel y byddai ar gyfer unrhyw ymgeisydd arall.
Rhaid adrodd am geisiadau mawr a gyflwynir gan y Cyngor, fel y cais hwn ar gyfer Caeau’r Gored Ddu, i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor wneud y penderfyniad terfynol. Mae hyn yn sicrhau bod pob penderfyniad yn destun craffu cyhoeddus priodol.
Mae’r pwyllgor cynllunio yn cynnwys Cynghorwyr etholedig o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol ac mae’n wleidyddol rydd i benderfynu, yn seiliedig ar dystiolaeth wrthrychol, a ddylai datblygiad fynd yn ei flaen ai peidio. Cynghorir y Cynghorwyr hyn gan swyddogion cynllunio hyfforddedig a chymwys sy’n deall cyfraith cynllunio a gofynion ar gyfer datblygiadau.
Ar ôl ystyried adroddiad y Swyddog, a thrafod y mater yn y Pwyllgor Cynllunio ar 4 Mehefin 2026, penderfynodd yr aelodau i roi caniatâd cynllunio.
Gellir herio pob penderfyniad a wneir gan y Cyngor, yn ei rôl fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, drwy wneud cais i’r Uchel Lys.
A fydd y cyhoedd yn dal i allu cael mynediad i Barc Bute yn ystod y cyngherddau?
Bydd. Bydd cyfran helaeth (dros 80%) o 130 erw Parc Bute yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd trwy gydol y cyfnod hwn.
Bydd mynediad cyhoeddus i Gaeau’r Gored Ddu yn cael ei gyfyngu yn ystod y cyngherddau ac am gyfnod byr y naill ochr a’r llall i ganiatáu gwaith gosod a datgymalu. Bydd ardaloedd glaswelltog gan gynnwys Cae Cooper, Lawnt y Berllan a’r ardal o amgylch Cylch Cerrig yr Orsedd yn parhau i fod ar agor.
Bydd manylion llawn yr holl newidiadau mynediad yn cael eu nodi’n glir o fewn y parc ac ar gael ar wefan Parc Bute.
Mae mannau gwyrdd cyhoeddus sylweddol hefyd ar gael yn agos at ofod digwyddiadau y Gored Ddu. Mae 141.60 o erwau o ofod gwyrdd cyhoeddus ar gael yng Nghaeau Pontcanna gerllaw gyda 68.89 erw arall ar gael i’r cyhoedd yng Nghaeau Llandaf.
Am ba hyd y bydd mynediad wedi ei atal i Gaeau’r Gored Ddu?
Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ar gyfer y digwyddiad ddechrau ar 8 Mehefin 2026. Ar hyn o bryd, disgwylir i’r gwaith datgymalu gael ei gwblhau erbyn 15 Gorffennaf.
Rhoddwyd Parc Bute i bobl Caerdydd ac mae’r digwyddiadau hyn yn cyfyngu mynediad i ddeiliaid sydd wedi talu am docynnau. Sut gall hynny fod yn deg?
Mae mynediad cyhoeddus i fannau gwyrdd yn bwysig. Mae’r Cyngor yn deall y pryder hwn a’r effaith dros dro y mae’r digwyddiadau hyn yn ei chael ar ddefnyddwyr eraill y parc.
Fodd bynnag, mae parciau yn wasanaethau anstatudol ac ar ôl toriadau sylweddol i gyllidebau, sydd wedi cael cryn sylw dros y degawd diwethaf, a phwysau parhaus ar gyllidebau llywodraeth leol, mae’n rhaid i ni gydbwyso mynediad cyhoeddus â chynhyrchu incwm sy’n sicrhau y gallwn barhau i gynnal a buddsoddi ym mharciau’r ddinas.
Rydym yn cydnabod yn llawn mai mater o bwyso a mesur yw hyn – nid yn unig rhwng incwm a mynediad, ond hefyd rôl Caerdydd fel prifddinas, sy’n enwog ledled y byd fel dinas ddigwyddiadau.
Beth sy’n digwydd i’r gemau criced sydd fel arfer yn cael eu chwarae ar Gaeau’r Gored Ddu?
Yn dilyn deialog gyda chynghreiriau criced lleol a Chriced Cymru, mae’r holl gemau criced sydd i fod i gael eu cynnal yn ystod y digwyddiadau haf hyn wedi’u hadleoli i leoliadau eraill.
Bydd un cae criced yng Nghaeau’r Gored Ddu yn parhau i gael ei ddefnyddio am y tymor llawn, ac eithrio ar y pum dyddiad pan fydd cyngerdd.
Beth am y caeau criced? Sut maen nhw’n cael eu hamddiffyn rhag difrod?
Nid yw cynnal cyngherddau ar gaeau chwaraeon yn anarferol ac mae gofal arbennig yn cael ei gymryd i amddiffyn y sgwariau criced rhag difrod. Bydd y dechnoleg a ddefnyddir yn y Gored Ddu yr un peth ag a ddefnyddir pan mae meysydd criced proffil uchel, fel Old Trafford, yn cynnal digwyddiadau.
Bydd cynllun adfer tyweirch llawn ar waith ar gyfer y meysydd allanol, gan gynnwys awyru pridd cywasgedig ac ail-hadu unrhyw glytiau fydd wedi treulio.
Fel rhan o’r cytundeb bond gyda gweithredwr y digwyddiad, bydd y costau o ‘wneud yn iawn’ am unrhyw ddifrod yn cael eu talu gan weithredwr y digwyddiad.
Beth os bydd hi’n bwrw glaw? Sut mae’r meysydd allanol yn cael eu hamddiffyn rhag difrod hirdymor?
Bydd amodau’r tir yn cael eu monitro bob dydd ac os yw tywydd eithafol yn gwneud amodau yn anghynaladwy, mae cymal ‘dewis olaf’ ar waith yn y contract gyda hyrwyddwr y digwyddiad, fyddai’n caniatáu lleihau ôl troed y digwyddiad, neu o bosibl ei ganslo, os yw o’r farn ei fod yn angenrheidiol i atal difrod hirdymor sylweddol.
Onid yw Parc Bute yn rhestredig? Ydy hynny wedi cael ei ystyried?
Ydy, mae Parc Bute yn barc rhestredig Gradd 1 ac mae hyn wedi cael ei ystyried ym mhob penderfyniad ynghylch y digwyddiadau.
Ers 2014 mae Parc Bute wedi dal Gwobr Treftadaeth Baner Werdd i gydnabod safon uchel o reoli a dehongli safle sydd â phwysigrwydd hanesyddol lleol neu genedlaethol, gan dynnu sylw at ba mor ddifrifol yr ydym yn cymryd gwarchod y man gwyrdd unigryw hwn.
Mae asesiad effaith treftadaeth annibynnol wedi’i gwblhau sy’n nodi y bydd “yr effaith hirdymor ar y parc hanesyddol cofrestredig yn fach iawn.”
Ymgynghorwyd â Cadw hefyd yn ystod proses y cais cynllunio.
A fydd unrhyw goed yn cael eu torri i lawr i hwyluso’r digwyddiadau eleni?
Na.
Sut bydd y fflora a’r ffawna yn y parc yn cael eu diogelu?
Mae hyrwyddwyr y digwyddiad yn cymryd eu cyfrifoldeb dros weithio yn lleoliad unigryw Parc Bute o ddifrif ac mae ystyriaeth ofalus wedi cael ei rhoi i ddiogelu amgylchedd y parc.
Mae bywyd gwyllt trefol fel arfer yn adfer unwaith y bydd aflonyddwch yn pasio. Fodd bynnag, mae’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod unrhyw effaith bosibl yn cael ei leihau yn cynnwys y canlynol:
Bydd yr holl oleuadau ac eithrio goleuadau diogelwch yn cael eu diffodd am 23.30pm.
Bydd cyfeiriadedd y llwyfan a’r dyluniad goleuo yn osgoi taflu goleuadau pwerus ar ganopïau coed yn barhaus, gyda goleuadau wedi’u cyfeirio am i lawr yn canolbwyntio ar y llwyfan a’r dorf ac ychydig iawn yn llifo i’r awyr neu’r coed.
Bydd parthau diogelu coed yn eu lle o amgylch unrhyw goed agored i niwed.
Dechreuodd rhaglen o waith cadwraeth, a gyflwynwyd gyda chymorth incwm a gynhyrchwyd gan ddigwyddiadau Blackweir Live yr haf diwethaf, gyda’r nod o wella iechyd hirdymor coedwigoedd y Gored Ddu yn gynharach eleni. Nod y gwaith yw gwella iechyd hirdymor coedwigoedd y Gored Ddu, gwella bioamrywiaeth, gwella strwythur y coetir a rheoli clefyd coed ynn i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Mae mwy o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/c25/36251.html
Beth am y madarch capiau cwyr sydd wedi’u darganfod ar Gaeau’r Gored Ddu? Sut caiff rhain eu gwarchod?
Bydd gorchuddion amddiffynnol yn cael eu defnyddio i sicrhau iechyd parhaus y myceliwm yn y pridd.
Bydd poblogaeth capiau cwyr yn y Gored Ddu yn cael ei monitro’n rheolaidd i asesu unrhyw effaith bosibl.
A fydd digwyddiadau Blackweir Live yn effeithio ar safle Perllan Gymunedol Parc Bute?
Na, mae’r Berllan Gymunedol y tu allan i ôl troed y digwyddiad. Bydd trefniadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod y berllan yn cael ei gwarchod gyda ffensys amddiffynnol a bydd cyfleusterau ar gael i alluogi coed newydd i gael eu dyfrio.
Beth am y sŵn?
Mae Parc Bute yn barc canol dinas sy’n cynnal digwyddiadau rheolaidd, gyda llawer ohonynt yn cynnwys cerddoriaeth fyw. Fodd bynnag, gan adeiladu ar wersi a ddysgwyd yn ystod y cyngherddau cyntaf yn y Gored Ddu yr haf diwethaf, mae cynllun rheoli sŵn diwygiedig wedi cael ei ddatblygu.
Mae’r cynllun yn cynnwys trefniadau gwell i fonitro lefelau sŵn yn barhaus trwy gydol y cyngherddau (gan gynnwys yn ystod gwiriadau sain) a galluogi gweithredu ar unwaith i leihau lefelau sŵn, os oes angen.
A fydd pontydd dros dro yn cael eu gosod dros y gamlas cyflenwi’r dociau ar gyfer digwyddiadau eleni?
Bydd. Bydd pedair pont dros dro i gerddwyr yn cael eu gosod dros y gamlas cyflenwi’r dociau i wella diogelwch y cyhoedd. Bydd y pontydd hyn yn yr un lleoliadau ag yr oeddent ar gyfer cyngherddau y llynedd a byddant yn darparu llwybrau mynediad ac allanfa ychwanegol i gerddwyr.
Bydd mwyafrif helaeth y gynulleidfa yn mynd i mewn ac allan o Gaeau’r Gored Ddu trwy Barc Bute gan ddefnyddio mynedfeydd y parc ym Mhorth y Gogledd, Heol Corbett, a thrwy Borth y Gorllewin ar Stryd y Castell.
Bydd y bont gerbydau bresennol ger yr hen orsaf ambiwlans hefyd yn cael ei gorchuddio â phont dros dro. Bydd y bont dros dro hon yn darparu’r cryfder ychwanegol sydd ei angen ar gyfer unrhyw gerbydau mwy eu maint sydd angen mynediad i ardal y digwyddiad.
Eleni, bydd pont yr orsaf ambiwlans hefyd yn darparu allanfa ychwanegol i gerddwyr ar ddiwedd y cyngherddau.
A fydd unrhyw ffyrdd ar gau ar gyfer y cyngherddau hyn?
Bydd. Mae’r trefniadau wedi cael eu hadolygu yn dilyn cyngherddau y llynedd, a bydd cynllun rheoli traffig diwygiedig yn cael ei roi ar waith. Bydd hyn yn cynnwys cau rhannau o Heol y Gogledd, Boulevard de Nantes a Stryd y Castell yn ogystal â ffyrdd o fewn y Ganolfan Ddinesig ar ddiwrnodau’r cyngherddau. Bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi cyn y cyngerdd cyntaf.
Beth yw’r cyngor teithio i bobl sy’n teithio i Gaerdydd ar gyfer y cyngherddau hyn?
Bydd cyngor teithio llawn yn cael ei gyhoeddi cyn y cyngerdd cyntaf.
Cynghorir pobl sy’n mynychu’r cyngherddau yn gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw, cyrraedd Caerdydd yn gynnar, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosibl, ac i gerdded neu feicio os ydyn nhw’n byw yn agos ac yn gallu gwneud hynny.
Bydd cyfleusterau parcio beiciau dros dro, ynghyd â pharth gollwng pwrpasol, yn cael eu darparu eleni yn y Ganolfan Ddinesig.
A fydd llwybr beicio Heol y Gogledd ar gau?
Bydd rhai gwyriadau dros dro byrdymor o’r llwybr beicio ar waith i hwyluso’r gwaith o osod a datgymalu’r digwyddiad. Ar ddiwrnodau’r cyngherddau bydd gwyriadau byr ar waith ar hyd llwybr amgen tebyg i’r ddau gyfeiriad. Bydd arwyddion clir ar gyfer pob gwyriad.
A fydd y cyngherddau yn cael unrhyw effaith ar Daith Taf?
Na. Bydd Taith Taf yn parhau i fod ar agor. Bydd Pont y Gored Ddu hefyd yn aros ar agor. Fodd bynnag, bydd llwybrau yn rhan ogleddol Parc Bute ar gau ar ddyddiadau’r cyngherddau.
Bydd manylion llawn yn cael eu nodi’n glir o fewn y parc ac ar gael ar wefan Parc Bute.
A fydd y Cyngor yn gwneud arian o’r cyngherddau hyn?
Bydd. Ynghyd â digwyddiadau poblogaidd a sefydledig eraill sydd eisoes yn digwydd ym Mharc Bute, bydd digwyddiadau Blackweir Live yn darparu incwm hanfodol i alluogi’r Cyngor i barhau i fuddsoddi ym mharciau’r ddinas a chynnal y safonau uchel yn ein mannau gwyrdd y mae preswylwyr yn eu haeddu.
Bydd incwm o’r digwyddiadau hefyd yn ein helpu i barhau i gyflawni ein huchelgais fel dinas gerdd, gan gefnogi ein lleoliadau llawr gwlad a hyrwyddo’r ddinas fel cyrchfan gerddoriaeth.
Mae’r incwm a gynhyrchwyd o gyngherddau Blackweir Live y llynedd wedi:
- cyfrannu at lwyddiant parhaus cynllun datblygu talent ‘Gigs Bach’;
- darparu cyllid cyfalaf i gefnogi lleoliadau llawr gwlad Caerdydd;
- helpu i gyflawni gwaith ehangach Dinas Gerdd Caerdydd;
- ariannu rhaglen o waith cadwraeth i gynyddu bioamrywiaeth a gwella iechyd cyffredinol coetir yn y Gored Ddu;
- ariannu uwchraddio llwybrau parciau; ac
- ariannu rhaglen adnewyddu arwyddion parciau.
Beth fydd manteision y cyngherddau hyn i economi Caerdydd?
Bydd yr artistiaid byd-enwog sy’n chwarae yn Blackweir Live yn denu ymwelwyr i’r ddinas ac yn arwain at fanteision economaidd sylweddol.
Fe wnaeth cyngherddau y llynedd yng Nghaeau’r Gored Ddu:
- gyfrannu at gynnydd o 15.6% yng ngwerthiannau canol y ddinas yn ystod mis y cyngherddau o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2024, gyda gwerthiannau’r sector adloniant i fyny 231.2% a gwerthiannau bwyd a diod i fyny 20.1% (yn ôl data gwariant gan Beauclair – cwmni sy’n arbenigo mewn data stryd fawr).
- cefnogi 3,118 o swyddi, 95% ohonynt gyda busnesau o Gymru oedd yn rhan o gadwyn gyflenwi’r digwyddiad.
- gweld dros 100,000 o bobl yn mynychu.
- codi dros £60,000 i elusennau.
Wrth gyfuno cyngherddau haf diwethaf y Gored Ddu gyda’r rhai a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd:
- Cynhyrchodd y digwyddiadau £64 miliwn net o fudd ychwanegol i economi’r DU.
- Amcangyfrifir bod y cyngherddau wedi arwain at wariant ychwanegol o oddeutu £39m gyda busnesau sy’n gweithredu yng Nghaerdydd, a £43m yng Nghymru.
- Ysgogodd y cyngherddau dros 700,000 o ymweliadau ychwanegol â safleoedd bwyta ac yfed, gan gynnwys 133,000 o ymweliadau â chaffis / siopau coffi, 363,000 â bariau a thafarndai a 147,000 â bwytai.



