Mae Caffi’r Tŷ Haf yn cynnig detholiad eang o ddiodydd a byrbrydau o ffynonellau lleol. Mae’r ardal eistedd awyr agored yn rhoi golygfeydd dros y border blodau. Mae’r caffi’n boblogaidd gyda theuluoedd sydd â phlant gan ei fod yn agos i’r llwybr cydbwyso coetir.
Mae gan y caffi bowlenni dŵr i gŵn a thritiau gydol y flwyddyn yn ogystal â hufen iâ i gŵn yn yr haf fel na fydd eich cyfaill pedwar coes ar ei golled.
Ar agor bob dydd 8am i 5pm (9am i 5pm ddydd Sul)
Does dim toiledau i’r cyhoedd yn y caffi. Mae toiledau i’r anabl ar y safle i ddeiliaid allweddi RADAR yn unig.
Mae’r toiledau cyhoeddus agosaf yn Ystafelloedd Te Pettigrew a Chaffi’r Ardd Gudd.
Hanes y Tŷ Haf
Cafodd Caffi’r Tŷ Haf ei ysbrydoli gan ddyluniad y tŷ haf gwreiddiol a oedd yn sefyll yn nhiroedd y teulu Bute ac yna’n cael ei symud i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Manylion
Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau Parc ButeAtyniadau
- Wal Derfyn y Dwyrain
- Seiliau’r Oriel
- Ategweithiau’r Bont
- Pont Porth y Gorllewin
- Pont a Ffynnon Arglwyddes Bute
- Caffi’r Tŷ Haf
- Ystafelloedd Te Pettigrew
- Drws y Bobl
- Castell Caerdydd
- Parc Bute – i’r rhai ifanc eu ffordd
- Gardd Stuttgart
- Camlas Gyflenwi’r Dociau
- Coedwigoedd Y Goredd Ddu
- Gorsaf Dywydd
- Polyn Siarter Coed
- Cylch yr Orsedd
- Brodordy y Brodyr Duon
- Cafn y Felin
- Wal yr Anifeiliaid
- Afon Taf