Polisi Preifatrwydd
Polisi Preifatrwydd Cynllun Rhodd Project Gwella Parc Bute
Mae Parc Bute yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y wybodaeth a gesglir. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan i wneud rhodd.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Rydym yn casglu’r data personol canlynol:
- Gwybodaeth adnabod bersonol, yn benodol eich cyfeiriad e-bost os byddwch yn dewis ei ddarparu.
Cesglir hyn at ddibenion darparu derbynneb o’r trafodyn i chi.
Fodd bynnag, gallwch wneud rhodd yn ddienw a dewis peidio rhoi cyfeiriad e-bost. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael derbynneb a byddai cael ad-daliad yn anoddach.
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych yn rhoi’r data rydym yn ei gasglu yn uniongyrchol i Gyngor Caerdydd. Rydym yn casglu data a phrosesu data pan fyddwch yn:
- Gwneud rhodd i Gynllun Rhodd Project Gwella Parc Bute
- Defnyddio neu edrych ar ein gwefan trwy gwcis eich porwr.
Sut y byddwn yn defnyddio eich data?
Mae Cyngor Caerdydd yn casglu eich data fel y gallwn:
- Brosesu eich rhodd
- Rhoi derbynneb i chi gan Gyngor Caerdydd am y taliad.
- Cofnodi log trafodion sy’n cynnwys eich rhif adnabod unigryw ar gyfer y trafodyn. Caiff hyn ei arddangos hefyd ar eich derbynneb fel y gallwch gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau am eich trafodyn.
- Rhoi ad-daliad i chi os gofynnir am un
Ni chaiff y cyfeiriad e-bost ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fydd yn weladwy i dîm Parc Bute. Ni chaiff enw’r rhoddwr ei gipio, ei storio na’i arddangos yn unman.
Nid yw Cyngor Caerdydd yn prosesu neu’n derbyn unrhyw fanylion taliadau cerdyn.
Os byddwch yn gwneud rhodd byddwch hefyd yn rhoi eich data i’n cwmni partner Capita trwy eu Porth Taliadau Diogel. Mae hyn fel y gallant:
- Awdurdodi a phrosesu eich taliad trwy eu porth taliadau e-fasnach diogel
- Rhoi derbynneb i chi gan Gyngor Caerdydd am y taliad
Gwybodaeth Diogelwch
Mae manylion eich cerdyn talu yn cael eu prosesu'n uniongyrchol gan Pay360 By Capita o Capita Software Services, y prif ddarparwr gwasanaethau taliadau ar-lein diogel i lywodraeth leol, ac nid ydynt yn cael eu casglu na'u cyrchu gan y Cyngor.
Mae atebion talu ar-lein Capita Software Services yn cael eu hasesu'n annibynnol ac mae'r cwmni wedi'i ardystio gan Visa Europe fel Safon Diogelwch Data'r Diwydiant Cardiau Talu (PCI DSS) Prosesydd talu Lefel 1.
Diogelir pob taliad cerdyn ar-lein gan Haen Soced Ddiogel (SSL) gyda hyd allweddol amgryptio o 128 darn, sef y lefel uchaf sydd ar gael yn fasnachol.
Sut byddwn yn storio eich data?
Byddwn ond yn cadw eich data personol gyhyd ag sydd angen i ni er mwyn cyflawni’r diben(ion) y’i casglwyd ar ei gyfer a gyhyd ag y byddwn wedyn yn ystyried sydd ei angen i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn o bosibl, oni bai ein bod yn dewis cadw eich data am gyfnod hwy er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Cyfyngir y cyfnod cadw i 2 flynedd yn unol â’r Atodlen Cadw Corfforaethol a Pholisi’r Diwydiant Cardiau Talu.
Marchnata
Ni fydd Cyngor Caerdydd yn anfon gwybodaeth farchnata gan ddefnyddio data a gafwyd trwy Gynllun Rhodd Project Gwella Parc Bute.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o'ch data personol gan Gyngor Caerdydd. Mae’n bosibl y byddwn yn codi ffi fach arnoch am y gwasanaeth hwn.
Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu prosesu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd wrthod prosesu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, o dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: Diogeludata@caerdydd.gov.uk
Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log safonol ar y Rhyngrwyd a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.
Sut rydym yn defnyddio cwcis?
Mae Polisi Cwcis Cyngor Caerdydd ar gael i’w weld ar
http://privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk/Cwcis.php
Sut i reoli cwcis
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae’r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o’ch porwr. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, mae’n bosibl na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn weithredol o ganlyniad.
Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i dudalennau project Cynllun Gwella Parc Bute yn unig. Mae gwefan Parc Bute hefyd yn cynnwys polisi preifatrwydd cyffredinol, y gellir ei weld yma http://privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk/Preifatrwydd.php?site=&lang=cymraeg
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler y Polisi Preifatrwydd llawn yma;https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Ymwadiad/Pages/default.aspx
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Pay360 By Capita yn prosesu eich data personol, gweler eu Hysbysiad Preifatrwydd yma: https://www.pay360.com/privacy
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei bolisïau preifatrwydd yn gyson ac yn rhoi unrhyw adolygiadau ar y tudalennau we perthnasol. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 14 Medi 2020.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Cyngor Caerdydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech adrodd ar gŵyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei wefan https://ico.org.uk neu drwy ffonio 0303 123 1113.