Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Ras 5k wych!
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl eisiau cadw’n heini, bwyta’n iach neu roi cynnig ar ddiddordeb newydd tua’r adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r Ras Adduned yn nod berffaith i’w gosod i’ch helpu i gadw at yr adduned honno. P’un ai a ydych yn penderfynu rhedeg, loncian neu gerdded ar hyd y llwybr byddwn ni’n eich cefnogi bob cam o’r daith. We’ll send you some helpful tips and advice to make sure you stay on track and cross that finish line.
![](https://bute-park.com/wp-content/uploads/stroke-logo-250x250.jpg)
Byddwn yn anfon awgrymiadau a chyngor defnyddiol i chi, er mwyn sicrhau eich bod yn dal ati ac yn croesi’r llinell derfyn.
Yn ogystal â rhedeg mewn digwyddiad gwych, bydd yr arian a godir gennych yn helpu pobl sydd wedi goroesi strôc ledled y DU. Yn y Gymdeithas Strôc rydym yn gweithio i atal strociau, helpu pawb y mae strôc wedi effeithio ar eu bywydau, ariannu gwaith ymchwil ac ymgyrchu dros hawliau pobl o bob oedran sydd wedi goroesi strôc.
Cofrestrwch i gael mwy o wybodaeth.
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein