Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Tickets: AM DDIM
Time: 12pm – 2pm (Gorymdaith Canol y Ddinas) 2pm – 6pm (Gŵyl ym Mharc Bute)
Ymunwch â ni am brofiad bythgofiadwy yng Ngŵyl flynyddol Ratha Yatra Caerdydd, dathliad bywiog o ddiwylliant a bwyd traddodiadol!
Ddydd Sadwrn, 10 Awst, byddwn yn ymgynnull yn Rhodfa’r Brenin Edward VII (CF10 3NS) i gymryd rhan yn yr orymdaith liwgar sy’n cynnwys cerbyd addurnedig cywrain y byddwn yn ei dynnu trwy’r ddinas, yn ogystal â cherddoriaeth fyw a pherfformiadau dawns traddodiadol.
Mae’r orymdaith yn ein harwain heibio Castell Caerdydd a thrwy ganol y ddinas, gan ein harwain yn ôl i’r parc yn y pen draw lle gallwch ymgolli yn awyrgylch bywiog ein Gŵyl Parc Bute (wrth ymyl Caffi’r Ardd Gudd CF10 3ER).
Yma, gallwch fwynhau gwledd fegan/llysieuol, mwynhau drama a cherddoriaeth fyw, pori crefftau unigryw a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog ar gyfer pob oedran.
Mae hwn yn ddigwyddiad chi ddim eisiau ei golli felly dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau a phrofi llawenydd a harddwch Gŵyl Fyd-enwog y Cerbydau!
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld yno!
Ewch i wefan y digwyddiad