NoFit State 12th Medi , 2025

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Peidiwch â cholli sioe ysblennydd SABOTAGE.

Dyma berfformiad afieithus, carlamus a digywilydd o danbaid. Byddwch yn geg-agored o weld sgiliau a styntiau’r perfformwyr sy’n defnyddio pob modfedd o’r Big Top i gyflwyno campau anhygoel.

Mae’n sioe syrcas fawreddog, gyffrous, unwaith mewn oes, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae’n cynnwys perfformwyr hynod dalentog, sgiliau ac awyrgampau syfrdanol, adloniant anhygoel, cerddoriaeth fyw a delweddau trawiadol. Chyfarwyddo gan Firenza Guidi.

Mae SABOTAGE yn gwneud i chi deimlo’n rhan o rywbeth; mae’n fwy na dim ond triciau a sbloet (er bod digon o hynny!), ond mae hefyd yn hyfryd cael rhannu llawenydd sioe fyw ag eraill. Mae’n rhoi rhyddid i chi i ddianc rhag y cyffredin, ac ymgolli dros eich pen a’ch clustiau ym mhrofiad unigryw’r stori, gyda cherddoriaeth fyw a delweddau hardd y syrcas yn cyfuno i greu atgof sy’n para o’r hyn sy’n bosibl.

Does dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.

“Awe-inspiring”
Buzz Magazine


Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

12th Medi , 2025 - 28th Medi , 2025

Lleoliad

Gerddi Sophia

what3words: deny.round.safety
Cyfarwyddiadau parc Bute