Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.
Ymunwch â’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol wrth gerdded, rholio neu fynd am dro hamddenol o amgylch Caerdydd ar gyfer ymchwil Sglerosis Ymledol fydd yn newid bywydau
Gyda llwybrau 1, 5 neu 10km i ddewis o’u plith, mae rhywbeth at ddant pawb yn Nhaith Gerdded SY Caerdydd. Gan ddechrau a gorffen ym Mharc Bute, mae’r llwybrau’n heibio rhai o dirnodau eiconig Caerdydd megis Castell Caerdydd, Stadiwm Principality a Bae Caerdydd.
Pa bynnag lwybr fyddwch chi’n ei ddewis, byddwch yn helpu i newid bywydau pobl y mae Sglerosis Ymledol yn effeithio arnynt – nawr ac yn y dyfodol. Cofrestrwch eich hun neu eich tîm a dechreuwch godi arian heddiw!
9am: Cofrestru’n agor
10am: Dechrau’r daith
Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein