Jack Savoretti 28th May, 2023

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Bydd Jack Savoretti, y seren indi sydd wedi bod mor llwyddiannus yn siartiau’r DU, yn dod â pherfformiad awyr agored arbennig untro i Barc Bute Caerdydd, yr haf nesaf, ar benwythnos Gŵyl y Banc, ar ddydd Sul 28 Mai 2023. Yn cynnwys ei holl ganeuon poblogaidd, bydd cynulleidfaoedd yn cael y fraint o gael profiad Jack Savoretti llawn, gan gynnwys caneuon o’i albymau poblogaidd ‘Singing To Strangers’, ‘Sleep No More’ ac ‘Europiana’.

‘Does dim byd yn well na chwarae i gynulleidfa fyw, yn yr awyr agored o dan y sêr, a dyna pam alla i ddim aros i weld pawb yng Nghaerdydd fis Mai nesaf. Mi fydda i’n ei gwneud hi’n sioe i’w chofio,” dywedodd Jack.                   

Am un noson arbennig, bydd y 130 erw o erddi a pharcdir ym Mharc Bute Caerdydd, yn cael eu meddiannu gan Savoretti, wrth i’r cantor/cyfansoddwr caneuon Rhif 1 gamu i’r llwyfan ar gyfer sioe anhygoel awyr agored yng ngolau’r sêr.  Gyda chaneuon o’i yrfa 15 mlynedd, caiff cefnogwyr Savoretti gwledd go iawn yn arddull anhygoel Savoretti – Gaerdydd, paratowch am noson i’w chofio!


Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

28th May, 2023 - 28th May, 2023 3:00 pm - 10:00 pm

Lleoliad

Cae Cooper

what3words: small.slang.crass

what3words:
Cyfarwyddiadau parc Bute