Deinosoriaid yn y Parc 17th Awst , 2023

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Mae’r Deinosoriaid yn dod i Gaerdydd!

Dewch draw i Barc Bute hardd a theithio nôl mewn amser i gwrdd â’r cewri cynhanesyddol. Byddwch yn cael eich syfrdanu gan dros 40 o ddeinosoriaid sy’n symud ac yn rhuo drwy ein llwybr coetir troelliog!

Helpwch ein Palaeontolegydd i ddod o hyd i’w offer coll a chlywwch bopeth am ddarganfyddiad newydd sbon o Ymlusgiad Morol Cynhanesyddol 10 metr o hyd – Ichthyosor Rutland . Archwiliwch sut beth fyddai bod yn Paleontolegydd a darganfod ffosilau hynod ddiddorol, dyluniwch eich deinosor eich hun a’i wylio’n dod yn fyw, mwynhewch golff mini dino a bownsio ar Deyrnas Dino.

Wedi’r cyfan efallai y bydd angen gorffwys arnoch chi – mwynhewch eich picnic eich hun neu rhowch gynnig ar y cynigion blasus sydd gan ein llys bwyd i’ch temtio.

Mae hwn wir yn ddiwrnod allan i’r teulu cyfan ei fwynhau. Cadwch olwg ar ein gwefan ar gyfer ein diwrnod digwyddiad arbennig pan fydd Dr Dean Lomax, Paleontolegydd byd-enwog ac awdur yn ymweld â’r parc i archwilio eich casgliad ffosilau eich hun, rhannu rhai o’i ddarganfyddiadau mwyaf a’ch ysbrydoli i ddod o hyd i’ch trysorau cynhanesyddol eich hun.


Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

17th Awst , 2023 - 3rd Medi , 2023 10:00 am - 7:00 pm

Lleoliad

Cae Cooper

what3words: small.slang.crass

what3words:
Cyfarwyddiadau parc Bute