Blackweir: Muse 23rd Mehefin, 2027

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.


Bydd MUSE yn dod i Gaeau’r Gored Ddu ddydd Mercher 23 Mehefin 2027, gan ddod ag un o sioeau byw mwyaf y byd roc i galon Caerdydd.

Wyth albwm Rhif 1 yn olynol yn y DU.  Dau GRAMMY.  Dros 30 miliwn o recordiau wedi’u gwerthu.  A chatalog delfrydol i’w berfformio i gae llawn pobl yn cyd-ganu â nhw.  Plug In Baby, Time Is Running Out, Supermassive Black Hole, Uprising.

Mae’r band ar dân yn sgil The Wow! Signal,   eu 10fed albwm stiwdio, aeth yn syth i Rhif 1 yn gynharach eleni. Gwnaeth yr NME yn ei ddisgrifio fel yr “albwm gorau mewn 20 mlynedd”, ac mae’n llawn ffefrynnau newydd gan gynnwys Unravelling, Cryogen, Hexagons, Nightshift Superstar a Hush, deuawd gydag Ellie Goulding.

Mae MUSE wedi creu enw da am eu cynyrchiadau enfawr, sy’n gwthio ffiniau. Yr haf nesaf cewch ei fwynhau dan y sêr, gyda CHVRCHES yn ymuno â nhw fel gwesteion arbennig.


Amser y Digwyddiad: 17:00 – 22:30
Cyfyngiadau Oedran: Rhaid i rai dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn dros 18 oed. Ni chaniateir unrhyw un dan 18 oed heb gwmni oedolyn ar y safle.
Gwefan y Digwyddiad: https://www.blackweirlive.com/muse
Dolen Tocynnau: https://www.ticketmaster.co.uk/event/1F006537F2C574FC 


Ewch i wefan y digwyddiad Prynu tocynnau ar-lein

Manylion

23rd Mehefin, 2027 - 23rd Mehefin, 2027 5:00 pm - 10:30 pm

Lleoliad

Caeau Blackweir

what3words: output.gums.fresh
Cyfarwyddiadau parc Bute