Y Darlun Ehangach 21st Awst , 2021

Gan fod y sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn gyflym a fyddech gystal â chadarnhau’r manylion am ddigwyddiadau penodol ar wefannau’r trefnwyr.

Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol am docynnau a rhagor o wybodaeth.

Creu. Rhannu. Cofio – Gwaith Celf

Mae Coles Funeral Directors wedi ymuno â’i bartner elusennol Hosbis y Ddinas a’r artist penigamp, Nathan Wyburn, i greu darn o waith celf pwrpasol sy’n dathlu bywyd ac yn cefnogi cymuned Caerdydd.

Ewch i colesfuneraldirectors.co.uk/the-bigger-picture i ddysgu sut y gallwch gyfrannu a bod yn rhan o’r dyluniad unigryw hwn.

Bydd yr holl roddion a wneir yn mynd yn uniongyrchol i Hosbis y Ddinas gan helpu’r tîm i barhau â’r gofal lliniarol hanfodol y mae’n ei gynnig i gleifion sy’n byw gyda Chanser, Dementia, Clefyd Niwronau Motor (MND), Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) ac afiechydon eraill sy’n cyfyngu ar fywyd. 

Ymunwch â’r tîm y tu allan i gaffi’r Ardd Gudd ddydd Sadwrn 21 Awst i weld y gwaith celf yn cael ei ddatgelu a chwrdd â’r artist.


Ewch i wefan y digwyddiad

Manylion

21st Awst , 2021 - 2nd Hydref , 2021 12:00 am - 11:59 pm

Lleoliad

Y Ganolfan Addysg

what3words: racing.wants.having

what3words:
Cyfarwyddiadau parc Bute