Llogi Ystafell Canolfan Ymwelwyr

Archebion cymunedol

Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Bute yn gweithredu fel canolbwynt gwybodaeth, dysgu a hamdden yn y parciau.

Rydym yn cynnig:

  • gosodiadau dodrefn hyblyg,
  • amrywiaeth o opsiynau cyflwyno,
  • lleoliad hawdd ei gyrraedd,
  • lle wedi'i awyru'n dda gyda drysau llithro mawr, a
  • gofod ystafell ddosbarth hawdd i'w lanhau.

Cytunir ar gyfraddau llogi drwy wneud cais. Mae isafswm tâl llogi o £60 + TAW yn berthnasol fesul sesiwn (hyd at 4 awr).

Os hoffech logi'r Ganolfan Ymwelwyr i gynnal dosbarth, gweithdy, sgwrs neu ddigwyddiad cyhoeddus arall, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau.

Yr hyn a ddarparwn ar gyfer eich archeb



Defnydd o'n cegin fechan, gerllaw'r ystafelloedd dosbarth a'r wrn dŵr poeth ar gyfer te, coffi a dŵr yfed hunanwasanaeth.

Er mwyn ein helpu i leihau gwastraff, awgrymwch i'ch mynychwyr eu bod yn dod â'u cwpan eu hunain i'w defnyddio drwy gydol y dydd

Mynediad i sinc mawr Belfast (prif ystafell ddosbarth)


Defnydd am ddim o'r bwrdd gwyn a/neu siart troi (y ddwy ystafell gyfarfod).


Teledu sgrin LED diffiniad uchel iawn 75" Samsung (prif ystafell ddosbarth)

Teledu sgrin LED diffiniad uchel iawn mawr 55" LG (ystafell gyfarfod fechan)


System cynadledda fideo USB Premium Poly sy'n addas ar gyfer unrhyw blatfform fideo cwmwl gan gynnwys Microsoft Teams, Zoom, Blue Jeans, GoToMeeting a llawer mwy. Bydd y camera olrhain deallus yn cipio delwedd o bwy bynnag sy'n siarad o fewn yr ystafell ac yn eu harddangos ar y sgrin i bawb, gan gynnwys y rhai sy'n ymuno â chi o bell (y ddwy ystafell gyfarfod)


Mae Gorsaf Docio Dell™ - USB 3.0 yn cysylltu'ch gliniadur â sgrin arddangos. Gallwch hefyd "blygio a chwarae" amryw o ddyfeisiau allanol megis gyriannau caled allanol, bysellfwrdd di-wifr a llygoden ac ati (un ar gael)
Mae dau opsiwn wi-fi ar gael:

  • Caerdydd Am Ddim

  • Wifi Fritzbox (cyflymder lawrlwytho 14mbps ac 1.5mbps lanlwytho)

Dewiswch o'r opsiynau archebu sydd ar gael.

Llogi ystafell ar gyfer dosbarthiadau cyhoeddus, gweithdai a sgyrsiau

Half Day (4 hours)

Full Day

Prif Ystafell Ddosbarth (hyd at 50 o bobl)

£60 +TAW

£120 +TAW

Ystafell Fechan (hyd at 10 o bobl)

£60 +TAW

£90 +TAW

Y ddwy Ystafell Os bydd eich grŵp yn cynnwys 25 (neu fwy) o bobl, bydd angen i chi archebu’r ystafell fechan os ydych yn bwriadu cael cinio wedi’i arlwyo.

£120 +TAW

£150 +TAW

Gostyngiadau ar gyfer archebion lluosog

Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer archebion sawl dyddiad. Anfonwch ymholiad atom a bydd ein tîm yn eich cynghori o'n hargaeledd a'r cyfraddau gorau a gynigir.

Cynnig arbennig ar gyfer archebion bloc yn ystod y tymor

Archebwch 4 wythnos a chael gweddill y tymor am ddim - o fewn adegau tymor ysgol. Dyddiau’r wythnos yn unig.

Cynnig arbennig ar gyfer archebion bloc yn ystod gwyliau’r ysgol

Archebwch 5 diwrnod am bris 4 - o fewn gwyliau ysgol. Dyddiau’r wythnos yn unig

Archebion ar y penwythnos

Cysylltwch â ni i drafod nifer o archebion ar y penwythnos.

    Manylion cyswllt

    Manylion y Digwyddiad

    Angen amser

    Nodwch fod hanner diwrnod naill ai rhwng 9am-1pm neu 1pm–5pm

    Amser Cyrraedd

    Gellir cael mynediad i'r ganolfan o 8.30am i'w sefydlu, a gellir ei defnyddio tan 5.30pm i'w glirio os bydd angen. Sylwer bod y Ganolfan Addysg yn cau cyn 5pm yn ystod misoedd y gaeaf (o fis Tachwedd tan fis Chwefror) oherwydd bydd oriau cau’r parc yn gynharach.

    Amser o (gofynnol)

    Amseroedd i (gofynnol)

    Arlwyo

    Oes angen lluniaeth?

    Te, Coffi a dŵr yfed hunanwasanaeth

    Gallwn ddarparu te a choffi ar gyfer y cyfarfod, hunanwasanaeth o'n cegin fach, sy'n ffinio â'r ddwy ystafell. Codir tâl o £1 y pen am y ddarpariaeth hon.

    Gallwn ddarparu cwpanau, te, coffi, siwgr a llaeth buwch a llaeth ceirch.

    Mae croeso i chi ddod ag unrhyw beth arall gyda chi.

    Cinio bwffe

    Os oes angen arlwyo arnoch chi, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sawl busnes lleol sy'n gyfarwydd â'n lleoliad.

    Ystafell i’w Harchebu

    [group all-rooms-half clear_on_hide]

    [/group]
    [group main-room-half clear_on_hide]

    [/group]
    [group both-rooms-half clear_on_hide]

    [/group]
    [group all-room-full clear_on_hide]

    [/group]
    [group main-room-full clear_on_hide]

    [/group]
    [group booth-rooms-full clear_on_hide]

    [/group]

    Gellir cael mynediad i'r ganolfan o 08:30 i'w sefydlu, a gellir ei defnyddio tan 17:30 i'w glirio os bydd angen. Sylwer yn ystod misoedd y gaeaf (mis Tachwedd i fis Chwefror), bod y Ganolfan Ymwelwyr yn cau cyn 5pm gan mai dim ond o fewn amseroedd agor swyddogol y parc yr ydym yn gweithredu.

    Bydd un o'n tîm yn trafod hyn gyda chi ac os oes rhaid cwtogi eich archeb oherwydd ein hamseroedd gweithredu tymhorol, gallwn gynnig gostyngiad o 20% ar ein cyfraddau diwrnod llawn.

    Offer

    Trefn yr ystafell

    Defnyddio Offer

    Ar gyfer y cyfarfod hoffem ddefnyddio

    Yswiriant

    Rhaid i chi ddarparu copi o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i ni

    [group pl-file clear_on_hide inline]

    *dim ond .pdf ffeiliau a ganiateir

    [/group]

    Sylwer

    Anfonebu: Byddwch yn cael anfoneb ar gyfer llogi’r ganolfan ar ôl eich digwyddiad.

    Polisi Canslo: Rhowch o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd neu bydd y swm llogi llawn yn cael ei godi arnoch.

    Mae isafswm tâl llogi o £60 + TAW yn berthnasol fesul sesiwn (hyd at 4 awr).

    Llenwch ffurflen archebu a chewch ddyfynbris cywir. Yna, bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i gadarnhau argaeledd neu drafod cyfraddau gostyngol ar gyfer archebion lluosog.

    Cyfanswm cost : £

    ex TAW

    TAW: £

    [group submit-button][/group][group Select-room-message]

    Dewiswch yr ystafell rydych chi ei hangen i barhau

    [/group]