Gwirfoddoli
Fel gwirfoddolwr, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig at Barc Bute.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd er mwyn i chi allu cymryd rhan ym mhob math o brosiectau.
Oes gennych ddiddordeb? E-bostiwch ni parcbute@caerdydd.gov.uk
Cyfleoedd:
Sesiynau cadwraeth
Ymunwch â Cheidwaid Parc Bute a chynorthwyo gyda thasgau cadwraeth yn y parc.
Mae’r tasgau’n cynnwys:
- Clirio llwybrau
- Tocio mieri sydd wedi gordyfu
- Codi sbwriel
- Rhaca gwair
- Plannu bylbiau
- Glanhau arwyddion a physt
- Tocio
Cysylltwch â ni i drefnu ar parcbute@caerdydd.gov.uk.
Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar ddydd Iau (1.30pm – 3.30pm).
Gwisgwch esgidiau call a dewch â menig os oes gennych rai. Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau a chyfarpar.
Gwirfoddolwyr a Digwyddiadau Addysg
Mae Gwirfoddolwyr Addysg yn cynorthwyo'r Swyddog Addysg gydag ymweliadau addysg a digwyddiadau i deuluoedd yn y Ganolfan Addysg ac yn y parc. Mae gweithgareddau’n cynnwys helfeydd bwystfilod bach, cyfeiriannu a dysgu yn yr awyr agored. Fel gwirfoddolwr byddwch yn:
- Helpu i baratoi gweithgareddau a thacluso ar ôl digwyddiadau
- Helpu plant a rhieni/gofalwyr yn ystod digwyddiadau,
- Tynnu lluniau gyda chaniatâd
- Dysgu sgiliau newydd
Mae sgiliau’r iaith Gymraeg yn ddymunol.
Sesiynau Garddio Dydd Mercher - wythnosol
Mae'r sesiynau rhwng 9.30am a 11.30am ar fore Mercher gyda'r tîm garddio. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- chwynnu gwelyau llwyni
- Plannu bylbiau
- planhigion yn y gwelyau
- Dyletswyddau garddio cyffredinol
Gwirfoddolwyr Sbotio Natur
Mae gwirfoddolwyr yn treulio amser pan fo'n gyfleus iddynt ym Mharc Bute yn chwilio am fflora a ffawna a thynnu lluniau ohonynt.
Mae'r gwirfoddolwr yn nodi'r creadur ac yn llwytho'r data ar gyfer cofnodi ar yr app chilio. Mae'r gwirfoddolwr yn ysgrifennu cwpl o frawddegau neu ffeithiau am y creadur ac yna'n eu hanfon at y Swyddog Addysg.
Mae'r rhain i'w gweld ar Facebook - 'Sylwi ar fyd natur ym Mharc Bute.'
Gwirfoddolwyr y Blanhigfa
Bydd gan wirfoddolwyr ym Mhlanhigfa Parc Bute ddiddordeb mewn garddwriaeth. Maent yn helpu gyda phlannu a pharatoi gwrychoedd. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo staff y blanhigfa gyda:
- Chwynnu
- Plannu eginblanhigion
- Dyfrio
- Dyletswyddau planhigfa cyffredinol
Grwpiau Corfforaethol a thargedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Cysylltwch â ni os ydych yn chwilio am gyfleoedd i’ch cwmni. Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda gwirfoddolwyr o nifer o sefydliadau.
Gallwn helpu chi i drefnu cyfleoedd i gyrraedd eich targedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol gan gynnwys:
- Tasgau cadwraeth
- Codi sbwriel
Codi sbwriel a grwpiau gwirfoddoli eraill
Os ydych yn bwriadu codi sbwriel neu ymweld â’r parc fel grwp neu sefydliad, cysylltwch â thîm Parc Bute ymlaen llaw.
Mae angen i ni wybod pryd byddwch chi’n dod i’r parc er mwyn sicrhau nad yw’ch gwirfoddoli’n tarfu ar unrhyw ddigwyddiadau eraill yn y parc.
Bydd angen i ni sicrhau bod gan y grwp asesiadau risg perthnasol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau codi sbwriel o amgylch Caerdydd ewch ar wefan Cadwch Gaerdydd yn Daclus.