Hysbysiad Cyhoeddus ar gyfer Digwyddiadau
Cyhoeddwyd 22nd Apr, 2020Chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i ddefnyddwyr rheolaidd y parc am eich digwyddiad o leiaf 7 diwrnod cyn eich diwrnod sefydlu cyntaf os yw’n tarfu ar lwybrau cyhoeddus a/neu’n newid amseroedd cloi arferol y parc (ac yn byrhau’r diwrnod).
Dylid arddangos manylion ar bob un o gatiau’r parc ac mewn lleoliadau o bwys yn agos at safle eich digwyddiad pan fo angen.
Dylai’r arwyddion fod yn ddwyieithog a dylid eu tynnu i lawr cyn i chi adael y safle.
Geiriad enghreifftiol ar arwyddion:
Hysbysiad Cyhoeddus | Public Notice |
Cynhelir [enw’r digwyddiad] ar [DD-MM] o [00:00-00:00] yn [lleoliad y digwyddiad]. Felly bydd y [llwybr a/neu’r ardal] hon yn brysurach na’r arfer bryd hynny. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: [Enw Trefnydd y Digwyddiad a’r Manylion Cyswllt] | Please note that [event name] is taking place on [DD-MM] from [00:00-00:00] at [event location]. Therefore this [path and/or area] will be busier than usual at this time. Apologies for any inconvenience caused. For more information, please contact: [Event Organiser’s Name & Contact Details] |
Gweler Cysylltu â’r Parc
Gweler Cynlluniau Argyfwng
Gweler y Gymraeg