Cae Cooper
Cyhoeddwyd 29th Maw, 2021Mae Cae Cooper yn rhan ddeheuol Parc Bute. Mae’r safle glaswelltog mawr agored hwn yn boblogaidd iawn ar gyfer digwyddiadau a gwyliau. Mae dau bwynt troi hammerhead grasscrete a sawl pwynt dŵr untro ar gyfer digwyddiadau ar gael yng Nghae Cooper i wasanaethu digwyddiadau. Gellir defnyddio’r safle hwn ar gyfer:
- Cyngherddau a gwyliau dydd
- Teithiau cerdded / rasys / reidiau beic elusennol
- Partïon preifat neu gorfforaethol
- Digwyddiadau cymunedol gyda seilwaith cymedrol
Safle Digwyddiad
Mae Cae Cooper yn safle digwyddiadau maes gwyrdd ym Mharc Bute, parc hanesyddol 146 erw ac arboretwm ag arwyddocâd cenedlaethol yng nghanol y ddinas. Mae’r parc yn cynnwys casgliad coed neu ‘ardd goed’ o bwys cenedlaethol, sy’n golygu bod rhai ardaloedd allan o ffiniau ar gyfer mathau penodol o ddefnydd.
Mae buddsoddiad a wnaed drwy “Brosiect Adfer Parc Bute” ac a ariennir gan y Loteri Treftadaeth wedi uwchraddio seilwaith y safle er mwyn bodloni gofynion y rhaglen ddigwyddiadau flynyddol yn well. Fodd bynnag, roedd y buddsoddiad hwn yn amodol ar sefydlu cynlluniau rheoli digwyddiadau llym i’w ddiogelu.
Felly, yn gyffredinol caniateir ei ddefnyddio o fis Ebrill i Medi yn unig, ac mae cyfnodau gorffwys o 6 wythnos yn cael eu rhwystro o’r calendr sydd ar gael ar ôl digwyddiadau seilwaith mawr er mwyn gadael i’r tir orffwys ac adfer digon.
Lleoliad | Google Map |
Cynllun y Safle | Cynllun Cyfyngiadau Digwyddiadau Cae Cooper |
Ffi Llogi | Ffi Llogi |
Maint | 26,000 metr sgwâr |
Mesuriadau | Tua 300 m x 80 m |
Trwydded safle | Mae’r safle hwn dan Drwydded Safle Parc Bute |
Cyflenwad pŵer ar y safle | Dim – datgomisiyniwyd yn 2017 |
Cyflenwad dŵr ar y safle | Oes – Yn amodol ar bolisi defnydd teg 6 x lleoliad |
Carthffosiaeth | Dim Tanc septig (3,500 galwyn) – datgomisiyniwyd yn 2022 |
Toiledau | Dim Mae’r cyfleusterau parc agosaf yn Ystafelloedd Te Pettigrew a Chaffi’r Ardd Gudd – nid ydynt yn addas i’w defnyddio gan y rhai sy’n mynd i’r digwyddiad. |
Llinellau ffôn/ISDN | Dim – datgysylltwyd yn 2019 |
Cysylltiad Data | Mae’n bosibl dod â data i Gae Cooper drwy bwynt cysylltu ym mastiwn gogledd orllewinol Castell Caerdydd. Gall hyn fod drwy wifren galed i’r cae neu ei drosglwyddo fel signal Wi-Fi. |
Ystyriaethau Eraill
Llifogydd | Mae Cae Cooper yn orlifdir ac er bod afon Taf wedi’i diogelu’n dda gan gynllun amddiffyn rhag llifogydd y 1980au, mae Camlas Gyflenwi’r Dociau ar lefel uwch na Chae Cooper ac mewn tywydd garw iawn gall orlifo ar y cae. Mae hyn yn llawer mwy tebygol yn ystod misoedd y gaeaf, sy’n rheswm arall pam nad yw digwyddiadau fel arfer ond yn cael eu cynnal o fis Ebrill i fis Medi. Gallai hyn fod yn anodd ei ragweld neu ei atal a gallai arwain at golledion sylweddol oherwydd “Force Majeure” i Drefnwyr Digwyddiadau. |
Cloddio | Mae rhai rhannau o Gae Cooper yn sensitif yn archeolegol ac yn cynnwys gwreiddiau coed felly ni chaniateir unrhyw gloddio. Rhaid i unrhyw waith cloddio fod gyda chaniatâd penodol Rheolwr y Digwyddiad ac efallai y bydd angen briff gwylio archeolegol o dan amodau Cadw. |
Gwrthdaro â digwyddiadau/lleoliadau eraill yng nghanol y ddinas
Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.
Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i’r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn effeithio’n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia.
Mae gan wefan Croeso Caerdydd gyfleuster chwilio y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored sydd wedi’u trefnu ar ddyddiad penodol.
Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu sŵn neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i’r lleoliad cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd a’r preswylfeydd newydd ar Heol y Gadeirlan.
- National Express at Sophia Gardens
- Ystafelloedd Te Pettigrew
- Stadiwm Principality
- Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
- Gerddi Sophia Caerdydd, Stadiwm Criced
- Chwaraeon Cymru
Access to site
Mynedfa i Gerddwyr | Y mynedfeydd agosaf i’r safle hwn o’r parc yw o: • Pont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y dwyrain) • Porth y Gogledd y Castell (o Heol y Gogledd, y Ganolfan Ddinesig, de-ddwyrain) • Porth y Gorllewin (o Stryd y Castell, de) • Pont y Mileniwm (o Erddi Sophia, y gorllewin) |
Cyfyngiadau Cerbyd/Llwyth | Mae mynediad cerbydau i’r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn â Corbett Rd. Mae uchafswm pwysau 40 tunnell ar y bont gerbydau. Mae’r pont gerbydau yn culhau i un lôn gan ei bod yn croesi Camlas Gyfenwi’r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy’n dod i mewn ac yn gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd gwasanaeth prif ddigwyddiadau tua’r de. Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i mewn i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o ‘gardiau llithro’ er mwyn gallu rheoli traffig mewn perthynas â’ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio’r system rheoli bolardiau yn ddiogel. Bydd stiwardiaid/arolygwyr cerbydau mawr yn hanfodol i reoli eich traffig yn ddiogel. Dylai’r rhain fod mewn cysylltiad radio â’i gilydd a dilyn gweithdrefnau llym i ddiogelu adeiladwaith y parc a defnyddwyr eraill y parc. Mae dau fan troi glaswellt siâp morthwyl ar Gae Cooper – un yn y pen gogleddol ac un yn y pen deheuol yn ogystal â dwy gilfan laswellt gyferbyn â nhw. Mae’r rhain yn darparu ‘safleoedd caled’ lle gellir troi cerbydau digwyddiadau a’u dadlwytho. Dylid cynllunio a chydgysylltu gweithrediadau i sicrhau mai dim ond hyn a hyn o draffig digwyddiadau sy’n troi ar y safle. Gall peidio â gwneud hyn niweidio’r glaswellt yn ddiangen a’ch gadael yn atebol am gostau adfer. Rhaid defnyddio alwminiwm amddiffynnol neu drac plastig i roi mynediad i’r glaswellt i gerbydau sydd â llwyth sy’n fwy na phum tunnell. Dylid defnyddio deunydd gwarchod tir (matiau trac, rhwystrau i gerddwyr neu fariau haearn/tâp perygl) mewn ardaloedd sy’n agored i niwed er mwyn atal difrod a achosir gan gerbydau digwyddiadau sy’n mynd ar hyd y llwybrau. Gweler y cynllun safle i gael canllaw. Mae rhai ardaloedd ‘dim mynediad’ yn gyfagos â’r safle’r digwyddiad a rhaid diogelu’r rhain yn gorfforol rhag difrod posibl i’ch digwyddiad, cyfeiriwch at gynllun y safle am arweiniad [coed campus, canopïau coed yn gyffredinol, y Gored Ddu ac ati] Mae gan Barc Bute stoc o arwyddion ‘modd digwyddiadau’ i helpu i reoli traffig digwyddiadau pan fo’r niferoedd yn sylweddol. |
Cyngor ar gyfer asesu risg a chynllunio CDM
- Mae system rheoli bolardiau awtomatig ym Mhont Mynediad i Gerbydau Parc Bute. Mae nodyn cyfarwyddyd ar ddefnyddio’n ddiogel ar gael.
- Mae cyfyngiad cyflymder 5 mya ar gyfer cerbydau yn y parc
- Ni all cerbydau droi i’r dde i mewn nac allan o’r parc wrth y bont cerbydau
- Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r bont mynediad i gerbydau wrth fynedfa’r parc – mae hyn yn effeithio ar hawl dramwy cerbydau i’r dde wrth fynd i mewn i’r parc a’i adael. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried sicrhau staff rheoli traffig ychwanegol i gynorthwyo cerbydau sy’n dod i mewn ac yn gadael y parc ar draws y llwybr beicio dynodedig
- Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r parc rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phont Troed y Mileniwm, sy’n croesi’r prif fynediad i gerbydau i Gae Cooper
- Gall y parc fod yn brysur. Fe’i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau gweithredol eraill. Gallent rannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau’r digwyddiad
- Mae rhai beicwyr yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder a gallant fod yn berygl i draffig digwyddiadau
- Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall dŵr sefyll ar wyneb ffyrdd a glaswellt.
- Mae’r parc yn cael ei gloi yn y nos (tua 30 munud cyn machlud haul) er y gwyddys fod pobl yn dewis cael eu cloi ynddo neu ddod i mewn ar ôl cloi drwy lwybrau answyddogol
- Gall troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd yno, fel y gellid ei ddisgwyl mewn unrhyw barc yng nghanol dinas.
- Nid oes goleuadau yn y parc ac mae’n dywyll iawn ar ôl machlud yr haul.
- Mae’r parc ehangach y tu allan i safle’r digwyddiad yn cael ei batrolio gan wasanaeth ceidwaid o fewn oriau golau dydd. Maent yn gwisgo gwisg goch ac wedi’u lleoli yn Adeilad y Ganolfan Ymwelwyr yng nghanol y parc. Mae’r ceidwaid yn gweithio i system rota ond mae adegau pan nad oes ceidwaid ar ddyletswydd. Os oes angen i chi gysylltu â cheidwad, dylech gysylltu â Rheolwr y Parc yn y lle cyntaf
- Dylai staff digwyddiadau ffonio 999, 101 (rhif heddlu nad ydynt yn rhai brys) yn uniongyrchol neu swyddfa Rheoli’r Parc 02920 873720 am droseddau, argyfyngau neu ddigwyddiadau a welir yn y parc ehangach, yn dibynnu ar eu natur.
- Mae safle Cae Cooper wedi’i farcio â chyfres o “Foron” lliw sy’n dangos terfyn allanol y safle a’r ardal gwarchod gwreiddiau (melyn), ceblau BT (coch) a dŵr (glas).
Gweler Cynllun Cyfyngiadau Digwyddiadau Cae Cooper
Canllawiau ar bob digwyddiad