Pont Porth y Gorllewin

Ailadeiladwyd Porth y Gorllewin a’r bont ar ochr y Castell gan John P. Grant ar gyfarwyddiadau’r 4ydd Ardalydd ym 1921.

Dymchwelwyd y porth gwreiddiol i raddau helaeth ar ôl 1787, ond arhosodd un pier. Pan adeiladwyd y porth newydd, adeiladwyd pont newydd hefyd i rychwantu’r cyrsiau dŵr a oedd wedi bwydo’r ddwy felin ym Melin Caerdydd.