Mae’r wal hon yn rhedeg hyd a lled y ffin o ffermdy’r Gored Ddu i borthdy Gabalfa.

Ni wyddys union oed y wal ond gall fod yn gyfoes â Phorthdy Llys-Tal-y-Bont sy’n dyddio cyn 1880. Mae’n nodwedd weledol sylweddol ar hyd y llwybr beicio gogledd/de ac mae’n gosod yn gryf y ffin ar gyfer rhan ogleddol y parc.

Cwblhawyd gwaith cadwraeth i sefydlogi ac atal dirywiad pellach o’r wal, yr oedd rhannau helaeth ohoni mewn cyflwr gwael, yn 2013.

Mae gwirfoddolwyr yn helpu ceidwad y parc i glirio llystyfiant o Wal Derfyn y Dwyrain ym (mis Mai 2022).