Mae’r cerrig hyn yn nodi pen dwyreiniol y bont o’r 18fed ganrif ar draws Afon Taf a ddisodlwyd gan y bont bresennol yn y 1920au.

Mae gwaith cerrig ategweithiau’r bont o’r 18fed ganrif yn dal i gael ei gadw o fewn y clawdd atal llifogydd ar lan ddwyreiniol Afon Taf wrth ymyl pont bresennol Pont Treganna. Gwelir golygfa gynnar o’r ategweithiau a ddymchwelwyd mewn braslun ym 1891 yn ‘Historic Houses of the United Kingdom’ gan Cassell.

Ymddengys y bont gyfan mewn nifer o olygfeydd pwysig o Gaerdydd o’r gorllewin, ac yn fwyaf nodedig, fe’i peintiwyd gan J. W. Turner ym 1796.
