Llwybr y Gwanwyn 7

Trifia

Mae cennau wedi’u ffurfio o ddau beth byw bach. Beth ydyn nhw?

Rwyt ti’n gywir.
Da iawn!

Hmmm…dyw hwnna ddim yn gywir.

Wyddech chi?

Mae’r ffwng a’r alga yn elwa o fyw gyda’i gilydd.

Mae’r alga yn cynhyrchu bwyd, ac mae’r ffwng yn casglu dŵr.

Fel hyn mae cen yn gallu goroesi tywydd garw a fyddai’n lladd ffwng neu alga oedd yn tyfu ar ei ben ei hun.

Yr enw am y fath berthynas yw symbiosis.

Mae tua 15,000 o wahanol rywogaethau, neu fathau. Mae cennau’n gallu byw lle nad oes llawer o blanhigion yn gallu goroesi.

Maen nhw’n byw yn yr anialwch, ger copaon mynyddoedd ac yn niffeithdir rhewllyd yr Arctig.

Maen nhw’n tyfu ar gerrig, boncyffion coed, pren marw, ac ar y ddaear.

Gweithgaredd

Dewch o hyd i 3 ffon ar y llawr. Un sy’n plygu, un sy’n torri ac yn sydd â chen arni.

Lleoliad y Llwybr

what3words: gold.rider.return